Benthyciadau Gwella Cartrefi a Chymorth Ariannol
Os ydych chi'n landlord neu'n berchennog cartref, mae'n bosibl y gallwn ddarparu benthyciadau di-log ar eich cyfer i wneud gwelliannau i'r eiddo. Darllenwch y
Gall gwelliannau gynnwys mesurau effeithlonrwydd ynni, atgyweirio diffygion a hyd yn oed ailddatblygu cartrefi gwag. Mae symiau'r benthyciadau a thelerau'r ad-dalu'n dibynnu ar y math o waith sydd dan sylw, ac fe allent gynnwys ffi brosesu.
Benthyciadau i wella cartrefi
Trwy arian gan Lywodraeth Cymru, diben y cynllun yw cynnig benthyciadau tymor byr i ganolig i helpu perchnogion cartrefi i wella cyflwr eu heiddo preswyl. Mae'n bosibl ystyried benthyciadau hyd at £5,000 fesul uned i dalu costau gwaith sy'n angenrheidiol i wneud eich cartref yn 'ddiogel, cynnes a sicr' megis gosod to newydd. Ni fydd unrhyw log ar y benthyciadau, ond bydd yna ffi fechan i dalu costau gweinyddu. Hefyd bydd angen pasio asesiad fforddiadwyedd i sicrhau bod ymgeiswyr yn gallu fforddio talu'r ad-daliadau.
Am ragor o wybodaeth neu i wneud cais amdano, cysylltwch â Chronfa Banc Cymunedol Robert Owen ar 01686 626234
Fodd bynnag, os ydych chi'n edrych am rywbeth i wella effeithlonrwydd ynni eich cartref, er enghraifft, inswleiddio, yna mae'n bosibl bod arian grant ar gael trwy gyrff eraill fel Llywodraeth Cymru neu eich darparwr ynni. Argymhellwn eich bod yn holi am grantiau o'r fath cyn gwneud cais am unrhyw fenthyciad. Gallwch wneud hynny trwy gysylltu â'r Energy Saving Trust neu Cymru Effeithlon.
ECO 3
Bellach, mae Cyngor Sir Powys yn cymryd rhan yn "ECO 3", y cynllun grant cenedlaethol a ariennir gan y 'Energy Company Obligation (ECO), a gynlluniwyd i helpu aelwydydd sy'n byw mewn tlodi tanwydd. Gall helpu i ddarparu gwelliannau insiwleiddio a gwresogi i denantiaid preifat neu berchnogion sy'n byw yn eu heiddio ar incwm isel neu fudd-daliadau sy'n byw mewn cartref sy'n aneffeithlon o ran ynni.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â phartner cyflenwi'r
Cymru Gynnes
Cyngor ar gyfer y cynllun:
Cymru Gynnes, Tŷ Llewelyn, Parc Busnes Harbourside, Port Talbot, SA13 1SB.
E-bost: information@warmwales.org.uk
Ffôn: 01656 747 622
Gwefan: http://www.warmwales.org.uk/cy/cartref/
. Dyddiad tynnu'n ôl - 28/9/2018 5pm.
CyswlltEich sylwadau am ein tudalennau