Toglo gwelededd dewislen symudol

Cymorth Ymarferol

Mae nifer o opsiynau ar gael i helpu tenantiaid newydd i ddodrefnu'u cartref. Yn eu plith mae:

  • Cronfa Cymorth Dewisol neu Fenthyciad
    Mae'n bosibl y bydd unigolion sy'n derbyn rhai budd-daliadau penodol  yn gallu cael help o'r Gronfa Cymorth Dewisol  a Benthyciadau Cyllidebau.

  • Cynlluniau Dodrefn
    Elusen gofrestredig yn y Drenewydd yw Phoenix Community Furniture Scheme ac mae'n ailgylchu dodrefn, pethau i'r ty ac eitemau trydan sy'n cael eu cyfrannu gan y cyhoedd.

  • Gwefannau
    Gwefan 'nid er elw' yw Freecycle sy'n galluogi pobl i hysbysebu a rhoi eitemau nad oes mo'u heisiau arnynt bellach i bobl sydd eu hangen. Mae'r holl eitemau ar gael am ddim, ac mae'r wefan hefyd yn cynnig cyfle i unigolion osod hysbysebion 'yn eisiau' ar gyfer yr eitemau y maen nhw'n chwilio amdanyn nhw.

Cymorth Symudol

Gwasanaeth sy'n darparu cymorth sy'n gysylltiedig â thai i oedolion hawdd eu niweidiol (dros 16 oed) i'w galluogi i fod yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Bydd gwasanaethau Cymorth Symudol yn rhai tymor byr ar y cyfan (llai na dwy flynedd) a gallant fod yn hyblyg er mwyn cynorthwyo rhywun lle bynnag y mae'n byw, sy'n wahanol i wasanaethau seiliedig ar lety, sy'n cynnig cymorth ar gyfer pobl mewn llety penodol.

Mae manylion isod ar gyfer y sefydliadau sy'n cynnig rhagor o gymorth/cyngor;

Cyswllt

Eich sylwadau am ein tudalennau