Cymorth Ymarferol
Mae nifer o opsiynau ar gael i helpu tenantiaid newydd i ddodrefnu'u cartref. Yn eu plith mae:
* Cronfa Cymorth Dewisol neu Fenthyciad
Mae'n bosibl y bydd unigolion sy'n derbyn rhai budd-daliadau penodol yn gallu cael help o'r Gronfa Cymorth Dewisol a Benthyciadau Cyllidebau.
* Cynlluniau Dodrefn
Elusen gofrestredig yn y Drenewydd a Llandrindod yw Phoenix Community Furniture Scheme ac mae'n ailgylchu dodrefn, pethau i'r ty ac eitemau trydan sy'n cael eu cyfrannu gan y cyhoedd.
* Gwefannau
Gwefan 'nid er elw' yw Freecycle sy'n galluogi pobl i hysbysebu a rhoi eitemau nad oes mo'u heisiau arnynt bellach i bobl sydd eu hangen. Mae'r holl eitemau ar gael am ddim, ac mae'r wefan hefyd yn cynnig cyfle i unigolion osod hysbysebion 'yn eisiau' ar gyfer yr eitemau y maen nhw'n chwilio amdanyn nhw.
Cymorth Symudol
Gwasanaeth sy'n darparu cymorth sy'n gysylltiedig â thai i oedolion hawdd eu niweidiol (dros 16 oed) i'w galluogi i fod yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Bydd gwasanaethau Cymorth Symudol yn rhai tymor byr ar y cyfan (llai na dwy flynedd) a gallant fod yn hyblyg er mwyn cynorthwyo rhywun lle bynnag y mae'n byw, sy'n wahanol i wasanaethau seiliedig ar lety, sy'n cynnig cymorth ar gyfer pobl mewn llety penodol.
Mae manylion isod ar gyfer y sefydliadau sy'n cynnig rhagor o gymorth/cyngor;
CyswlltEich sylwadau am ein tudalennau