Meysydd parcio Tref-y-clawdd
Mae yna ddau faes parcio talu ac arddangos yn Nhref-y-clawdd:
- Maes parcio Norton Arms (LD7 1DW) sy'n faes parcio cyfnod byr (hyd at 2 awr) ar gyfer ceir modur yn unig.
- Maes Parcio Lôn y Lawnt Fowlio (LD7 1DJ) sy'n faes parcio cyfnod hir.
Mae'r meysydd parcio hyn i gyd yn cynnwys mannau i'r anabl.
Ffioedd safonol y meysydd parcio
Gellir prynu trwyddedau maes parcio a thocynnau tymor meysydd parcio ar gyfer pob maes parcio arhosiad hir.
PayByPhone: mae'r opsiwn i dalu am barcio trwy'ch ffôn symudol ar gael ym mhob maes parcio talu ac arddangos Cyngor Sir Powys.
Mae peiriannau talu ac arddangos yn derbyn arian parod a chardiau, lle bo'n berthnasol.