Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Yr Iaith Gymraeg

A allaf weithio i Gyngor Sir Powys os nad wyf yn siarad Cymraeg?

Mae'r gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol ar gyfer rhai swyddi ond efallai dim ond yn ddymunol ar gyfer swyddi eraill. Bydd y Lefel Cymhwysedd yn y Gymraeg yn cael ei nodi yn y swydd ddisgrifiad.

Bydd cyfle i bawb o bob gallu i ddysgu Cymraeg ar ôl i chi ddechrau gweithio gyda'r Awdurdod.

Lefel Cymhwysedd

 

1        Gallaf ynganu enwau personol ac enwau lleoedd yn gywir, a gallaf roi ac ymateb i gyfarchion syml dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.

2        Gallaf gyfathrebu mewn tasgau syml cyffredin, sy'n gofyn am gyfnewid gwybodaeth ar bynciau a gweithgareddau cyfarwydd. Gallaf gynnal sgwrs gymdeithasol fer, er na allaf ddeall digon i gadw'r sgwrs i fynd fy hun.

3        Gallaf ddelio â'r rhan fwyaf o sefyllfaoedd sy'n debygol o godi wrth deithio mewn ardal lle mae'r iaith yn cael ei siarad. Gallaf ymuno â sgwrs yn fyrfyfyr ar bynciau sy'n gyfarwydd neu'n berthnasol i fywyd bob dydd (e.e. teulu, diddordebau, gwaith).

4        Gallaf ymwneud â siaradwyr brodorol yn rhugl ac yn fyrfyfyr. Gallaf gymryd rhan mewn trafodaethau mewn sefyllfaoedd cyfarwydd.

5        Gallaf gymryd rhan mewn unrhyw sgwrs neu drafodaeth yn ddiymdrech ac rwy'n gyfarwydd iawn â phriod-ddulliau a dywediadau llafar. Gallaf fynegi fy hun yn rhugl a chyfleu arlliw penodol i ystyr yn fanwl.