Toglo gwelededd dewislen symudol

Geirdaon

Rhaid i ymgeiswyr roi enwau o leiaf dau ganolwr, a rhaid i un ohonynt fod yn gyflogwr mwyaf diweddar. Os yw'r swydd ym maes Gofal Cymdeithasol neu mewn ysgol ac nad oedd eich cyflogwr diwethaf o fewn lleoliad gofal/ysgol, rhaid cael un geirda o'ch swydd ddiweddaraf mewn lleoliad gofal neu ysgol.

Os ydych chi'n gwneud cais am swydd o fewn Gwasanaeth Gofal yn y Cartref, rhaid i chi roi enwau dau ganolwr. Os ydych chi wedi newid cyflogwyr o fewn lleoliad gofal dros y bum mlynedd ddiwethaf, rhaid i chi roi manylion pob cyflogwr fel canolwyr. Os nad oedd eich cyflogwr diwethaf o fewn lleoliad gofal, rhaid cael un geirda o'ch swydd ddiweddaraf mewn lleoliad gofal.

Os ydych chi'n gwneud cais am swydd gyda'r Adran TGCh, yn ôl y Safon Ddiogelwch Safonol ar gyfer Personel, mae'n rhaid i chi enwi dau ganolwr. Os ydych wedi newid swyddi dros y 3 blynedd diwethaf, mae'n rhaid i chi roi manylion pob cyflogwr fel canolwr.

Os mai gwaith gwirfoddol yn unig rydych chi wedi'i wneud gyda phlant, pobl ifanc a/neu oedolion sy'n agored i niwed, dylech ddefnyddio'r mudiad gwirfoddol fel canolwr.

Os nad ydych chi wedi gweithio o'r blaen gydag un ai plant, pobl ifanc a/neu oedolion sy'n agored i niwed, rhaid i chi gyflwyno geirda cymeriad gan rywun sy'n gallu cadarnhau eich bod yn gymwys i weithio gyda phlant, pobl ifanc a/neu oedolion sy'n agored i niwed. Fel arfer byddai hyn yn rhywun mewn awdurdod e.e. darlithydd, meddyg neu arweinydd cymunedol. Sylwch y bydd geirdaon cymeriad yn cael eu derbyn fel arfer fel atodiad i eirda cyflogwr.

Yn ogystal, bydd Cyngor Sir Powys yn gofyn am eirdaon gan sefydliadau addysgol ar gyfer yr ymgeiswyr hynny sydd heb swyddi blaenorol.

Ni fyddwn mewn unrhyw amgylchiadau'n derbyn Geirdaon Agored (h.y. wedi'u cyfeirio at 'bwy bynnag a fynno wybod'.

Os ydych ar y rhestr fer ar gyfer swydd mewn ysgol, byddwn yn cysylltu â'ch canolwyr cyn dyddiad y cyfweliad.

Ac eithrio swyddi ysgolion, bydd Cyngor Sir Powys yn cysylltu â'r canolwyr ar ôl y cyfweliad os byddwch wedi cael cynnig y swydd.

Cyswllt

  • Ebost: recruitment@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 826409
  • Cyfeiriad: Tîm Recriwtio, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau