Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Sut mae budd-daliadau'n newid

Dylai'r dudalen hon roi'r newyddion diweddaraf i chi am y newidiadau perthnasol

Credyd Cynhwysol

Cyflwynwyd Credyd Cynhwysol ym Mhowys ar 10 Hydref 2018. Os ydych chi neu'ch partner o oed gweithio ac angen gwneud cais am fudd-dal arnoch, rhaid i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Parau Oed Cymysg

Mae hyn yn golygu pâr lle mae un ohonoch yn bensiynwr a'r llall o oed gweithio. O 15 Mai 2019 bydd angen i chi hawlio Credyd Cynhwysol. Bydd Parau Oed Cymysg sydd eisoes yn derbyn budd-dal yn cael eu gwarchod.

Bydd y meini prawf maint cymdeithasol yn effeithio ar gyplau o oed cymysg.  Mae hyn yn golygu pan fydd un o'r cwpwl o oedran gweithio, byddan nhw'n derbyn Budd-dal Tai ar gyfer nifer yr ystafelloedd gwely sydd eu hangen.  Mae hwn yn aml yn cael ei alw'n "dreth ystafell wely".  Anogir unrhyw gyplau o oed cymysg sy'n cael eu heffeithio gan y newidiadau diweddar i'r rheolau i wneud cais  am daliad disgresiwn at gostau tai i'w helpu.

Cap ar Fudd-daliadau

Cyfyngiad ar gyfanswm y budd-dal y gallwch ei dderbyn yw'r Cap ar Fudd-daliadau. Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn penderfynu a yw'r cap ar fudd-daliadau yn effeithio arnoch ai peidio, ac hwn sy'n cael ei dynnu gyntaf o'ch hawliad budd-dal tai

Cyfrifydd Cap ar Fudd-daliadau

Ystafell Ychwanegol?

Ydych chi neu aelod o'ch teulu'n anabl?

A oes gennych chi blentyn yn y Lluoedd Arfog?

Cyd-Denant?

Mae'n bosibl bod gennych hawl i ystafell wely ychwanegol

Rhent wedi'i warchod

A yw rhywun ar eich aelwyd wedi marw'n ddiweddar?

Oeddech chi'n gallu fforddio'ch rhent yn flaenorol?

Tenantiaeth cyn 1996?

Mwy na 2 o blant?

Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai ac yn cael plentyn arall ar ôl Ebrill 2017 mae'n bosibl na fyddwch yn gallu derbyn lwfans ychwanegol ar ei gyfer, ond byddwch yn gymwys i gael ystafell wely ychwanegol os ydych yn gymwys.