Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Ystafell wely Ychwanegol

Mae'n bosibl y bydd gennych hawl i gael unrhyw lwfans am unrhyw ystafelloedd gwely ychwanegol yn eich Budd-dal Tai.

Os ydych chi'n anabl

Mae gennych hawl i ystafell wely ychwanegol os oes rhywun ar eich aelwyd yn anabl ac angen gofal dros nos yn rheolaidd gan ofalwr nad yw'n byw gyda chi. Ni fydd hyn yn cyfrif fel ystafell wely sbâr. Mae angen i'r sawl sy'n anabl:

  • fod yr un sy'n hawlio
  • fod yn bartner i'r un sy'n hawlio
  • fod yn unrhyw oedolyn arall sy'n byw gyda chi ac yn cael budd-dal anabledd

Dylai'r unigolyn anabl hefyd dderbyn o leiaf 1 o'r budd-daliadau hyn:

  • Lwfans Gweini
  • Cydran gofal Lwfans Byw i'r Anabl ar y gyfradd ganol neu uwch
  • Cydran byw bob dydd Taliad Annibyniaeth Personol 
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog

Dim ond un ystafell wely ychwanegol sydd ar gael i ofalwyr, hyd yn oed os oes gan fwy nag 1 unigolyn yn eich cartref ofal dros nos. 

Gallwch hefyd gael ystafell wely ychwanegol os ydych chi'n bâr lle mae gan un ohonoch chi anabledd sy'n golygu na allwch chi rannu ystafell wely. Bydd angen i'r unigolyn anabl dderbyn o leiaf 1 o'r budd-daliadau hyn:

  • Cyfradd uwch y Lwfans Gweini
  • Cydran gofal Lwfans Byw i'r Anabl ar y gyfradd ganol neu uwch
  • Cydran byw beunyddiol y Taliad Annibyniaeth Personol
  • Taliad Annibyniaeth Lluoedd Arfog

Os ydych chi'n anabl a'r toriadau'n effeithio arnoch chi, dylech fynd at eich cyngor lleol i gael help ychwanegol gyda'ch rhent. Gelwir hyn yn Daliad Disgresiwn at gostau Tai. 

Os oes gennych blentyn anabl

Mae gennych chi hawl i ystafell wely ychwanegol os yw eich plentyn yn anabl ac mae'n methu â rhannu ystafell wely gyda phlentyn arall oherwydd ei anabledd. Mae gennych chi hefyd hawl i ystafell ychwanegol os yw eich plentyn yn anabl ac angen gofal rheolaidd arno dros nos gan ofalwr nad yw'n byw gyda chi. Mae'n rhaid i chi gyflawni'r amodau canlynol:

  • rhaid i'ch plentyn anabl fod â hawl i gydran gofal y Lwfans Byw i'r Anabl ar y gyfradd ganolig neu uwch
  • rhaid i'r awdurdod lleol gael eu bodloni bod anabledd eich plentyn yn golygu nad yw'n gallu rhannu ystafell wely gyda phlentyn arall

Os yw eich plentyn yn byw gyda chi am ddim ond rhan o'r wythnos

Os ydych chi'n rhannu gofal eich plentyn gyda'i riant arall, bydd eich plentyn chi'n cael ei drin fel pe bai'n byw gyda'r rhiant sy'n darparu prif gartref y plentyn. Os yw eich plentyn yn treulio amser cyfartal gyda'r ddau riant, bydd yn cael ei drin fe pe byddai'n byw gyda'r rhiant sy'n hawlio Budd-dal Plant ar ei gyfer. Gallai hyn olygu na fydd hawl gennych i gael ystafell wely i'r plentyn.

Os ydych chi'n ofalwr maeth

Os oes unrhyw un o'r bobl ganlynol yn ofalwr maeth cymeradwy, neu yn yr Alban, gofalwr maeth cymeradwy neu ofalwr sy'n berthynas, bydd hawl iddynt gael ystafell wely ychwanegol. Ni fydd yr ystafell hon yn cael ei chyfrif fel ystafell wely sbâr. Dyma'r bobl:

  • yr hawliwr
  • partner yr hawliwr
  • rhywun arall sy'n gyd-denant gyda'r hawliwr neu bartner yr hawliwr
  • partner rhywun arall sy'n gyd-denant gyda'r hawliwr neu bartner yr hawliwr.

Dim ond un ystafell wely ychwanegol a ganiateir i hawliwr a phartner hawliwr os yw'r ddau'n ofalwyr maeth cymeradwy neu'n ofalwr sy'n berthynas. Dim ond un ystafell wely sy'n cael ei ganiatáu i gyd-denant a phartner y cyd-denant os yw'r ddau yn ofalwyr maeth neu'n ofalwyr sy'n berthnasau.

Mae'r rheolau hyn yn berthnasol p'un a oes plentyn wedi'i leoli gyda'r gofalwr ai peidio, cyn belled â'u bod wedi maethu plentyn neu wedi dod yn ofalwr maeth yn ystod y deuddeg mis diwethaf.

Os yw eich plentyn yn y Lluoedd Arfog

Os oes gennych chi fab, merch neu lys-blentyn sy'n oedolyn ac yn y Lluoedd Arfog, ac sy'n byw gyda chi ond sy'n gweithio oddi cartref, bydd yn cael ei drin fel pe tai'n parhau i fyw gartref.

Cyn belled â'i fod yn bwriadu dychwelyd, ni fydd y rheolau'n berthnasol i'r ystafell wely y bydd ef neu hi yn ei ddefnyddio fel arfer.

Os ydych chi'n gyd-Denant

Bydd pawb sy'n rhannu eiddo'n cael ei gyfrif hyd yn oed os yw'n gyd-denant. Os ydych chi'n gyd-denant a'ch eiddo'n cael ei ystyried yn rhy fawr i chi, bydd eich Budd-dal Tai yn cael ei leihau.

Er enghraifft, rydych chi'n gyd-denant cyngor gyda'ch brawd ac mae tair ystafell wely yn yr eiddo. Roedd plentyn eich brawd yn arfer byw gyda chi felly roedd gennych ystafell yr un. Fodd bynnag, nawr mae'r plentyn wedi gadael y cartref, byddwch yn cael eich trin fel pe byddai gennych ystafell sbâr.