Wedi'i leoli chwech milltir a hanner i'r dwyrain o'r Drenewydd, ym mhrydferthwch cefn gwlad; hen dyddyn sy'n dŷ pâr hudolus gyda thair ystafell wely . Mae'r eiddo'n cynnwys amrywiaeth o adeiladau amaethyddol sy'n cynnig potensial ar gyfer defnyddiau amgen a thua 4.6 erw o dir pori.
Pentrebeirdd, Cegidfa, Y Trallwng, Powys, SY21 9DJ
Wedi'i leoli ddwy filltir i'r gogledd o Gegidfa, Y Trallwng, mae cyfle ar gael i brynu hen Dyddyn yr Ystad Ffermydd sy'n cynnwys 2 adeilad, ardal parcio ceir a 2.46 erw o dir pori.
Neuadd Gymunedol Northside, Canal Road, Y Drenewydd
Canolfan Gymunedol Ar wahân, Un Llawr, Pwrpasol
Gan ymestyn i oddeutu 1,506.95 tr sg (140.94 m sgwâr), mae'r eiddo hwn sydd â phob cyfleuster yn cynnig adeiladau amlbwrpas o ansawdd uchel o fewn plot hael ei faint. Mae ei gynllun a'i leoliad yn ei wneud yn addas ar gyfer ystod eang o ddefnyddiau masnachol, cymunedol a seiliedig ar wasanaethau, yn amodol ar unrhyw ganiatâd angenrheidiol.
Cyn Ysgol Gynradd Gymunedol Dyffryn Irfon, Garth, Llangamarch, Powys, LD4 4AT
Wedi'i lleoli ym mhentref Garth, ger Llanfair-ym-Muallt, mae cyfle ar gael i brynu hen Ysgol Gynradd Gymunedol Dyffryn Irfon sy'n cynnwys 2 adeilad, man parcio ceir, ardal chwarae ac ardal gae fawr.
Mae'r Cyngor Sir wedi derbyn cynnig ar gyfer rhydd-ddaliad y tir wedi'i amlinellu'n goch ar y cynllun isod, yn ymestyn i tua 1 erw sy'n cynnwys tir pori a phwll bach gerllaw Bwthyn Wern, Lôn Wern, Sarn SY16 4EN.
Wedi'i leoli ar ymyl Llanbrynmair, dyma gyfle i brynu'r hen Ddepo Priffyrdd sy'n cynnwys uned ddiwydiannol fawr ynghyd â storfa agored a thir heb ei ddatblygu.
1.4 erw
Cyn Uned ddiwydiannol priffyrdd sy'n adeilad ffrâm porthol.
Ebost: property.services@powys.gov.uk (Defnyddiwch yr e-bost hwn ar gyfer ymholiadau am eiddo corfforaethol. Os yw eich ymholiad am Dai Cyngor, dyma'r cyfeiriad e-bost sydd angen i chi ddefnyddio housing@powys.gov.uk)