Toglo gwelededd dewislen symudol

Eiddo ar Werth

Cyn Ysgol Gynradd Gymunedol Dyffryn Irfon, Garth, Llangamarch, Powys, LD4 4AT

Wedi'i lleoli ym mhentref Garth, ger Llanfair-ym-Muallt, mae cyfle ar gael i brynu hen Ysgol Gynradd Gymunedol Dyffryn Irfon sy'n cynnwys 2 adeilad, man parcio ceir, ardal chwarae ac ardal gae fawr.

Mae'r safle oddeutu 2.143 erw.

Rhydd - ddaliadol

Canllaw Pris £220,000

Irfon Valley 1

Irfon Valley 2

Gofyn am fanylion yma Gofyn am fanylion eiddo i'w osod

 

Parsel bach o dir cyfagos â Hen Lofa Ynysgedwyn, Ystradgynlais, Powys SA9 1SE.

Mae'r Cyngor Sir wedi derbyn cynnig ar gyfer y tir ag ymyl goch ar y cynllun isod, sy'n ymestyn i oddeutu 83sq/m. Gwahoddir cynnigion i brynu'r parsel o dir. Bydd y prynwr hefyd yn gyfrifol am dalu costau swyddogion Cyngor Sir Powys ar gyfer gwerthu'r tir.

Ystrad 1

Ystrad 2

Gofyn am fanylion yma Gofyn am fanylion eiddo i'w osod

Ar werth gerllaw Bwthyn Wern 

Mae'r Cyngor Sir wedi derbyn cynnig ar gyfer rhydd-ddaliad y tir wedi'i amlinellu'n goch ar y cynllun isod, yn ymestyn i tua 1 erw sy'n cynnwys tir pori a phwll bach gerllaw Bwthyn Wern, Lôn Wern, Sarn SY16 4EN.  

Dylid anfon cynigion ac ymholiadau i county.farms@powys.gov.uk.

Gofyn am fanylion yma Gofyn am fanylion eiddo i'w osod

Llanbrynmair Cyn Ddepo Priffyrdd

Cytunwyd ar Werthiant

  • Wedi'i leoli ar ymyl Llanbrynmair, dyma gyfle i brynu'r hen Ddepo Priffyrdd sy'n cynnwys uned ddiwydiannol fawr ynghyd â storfa agored a thir heb ei ddatblygu.
  • 1.4 erw
  • Cyn Uned ddiwydiannol priffyrdd sy'n adeilad ffrâm porthol.
  • Rhydd - ddaliadol

Pris Canllaw, Cynigion dros £150,000

Gofyn am fanylion yma Gofyn am fanylion eiddo i'w osod

Arddleen Grange, Aarddin, Powys, SY22 6PX

Cytunwyd ar Werthiant

Eiddo ar wahân 4 ystafell wely â chyfle i wneud gwaith arno, wedi'i osod mewn llain o ryw 3.8 erw, gydag amrywiaeth o adeiladau allanol defnyddiol

Rhydd-ddaliad

Pris Canllaw £500,000

Gofyn am fanylion yma Gofyn am fanylion eiddo i'w osod

Tir wedi'i leoli ochr yn ochr â Church Farm, Ffordun, Ger Y Trallwng SY21 8NE Map (PDF, 245 KB)

Dan Gynnig

  • Cyfle am Ddatblygiad Preswyl - tua 1.31 Erw
  • Caniatâd Cynllunio Amlinellol ar gyfer 9 Anheddle
  • Cynigion dros £240,000.

Gofyn am fanylion yma Gofyn am fanylion eiddo i'w osod

 

Cysylltiadau

  • Ebost: property.services@powys.gov.uk (Defnyddiwch yr e-bost hwn ar gyfer ymholiadau am eiddo corfforaethol.  Os yw eich ymholiad am Dai Cyngor, dyma'r cyfeiriad e-bost sydd angen i chi ddefnyddio housing@powys.gov.uk)
  • Rhif ffôn: 01597 826773
  • Cyfeiriad: Tîm Rheoli Stadau ac Eiddo'r Cyngor, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Rhowch sylwadau am dudalen yma

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu