Mae'r gweithdai wedi'u lleoli'n ganolog ym mhentref Caersws, taith 15 munud o'r Drenewydd. Mae gan y pentref gysylltiadau trafnidiaeth ragorol ar hyd yr A470 A489, yn ogystal â chysylltiad rheilffordd ag Aberystwyth a'r Amwythig. Mae Gweithdai Pentref Caersws yn cynnwys grŵp o adeiladau unllawr brics modern, pob un wedi'u rhannu'n unedau crefft a fwriedir ar gyfer diwydiannau ysgafn neu ddefnydd swyddfa. Darperir mynedfa blaen a chefn ac iard preifat fechan ar gyfer pob uned. Mae'r mynedfa i'r safle ar gyfer cerbydau o'r brif ffordd a pharcio cymunedol. Mae'r safle'n cynnwys cyfleusterau toiledau cymunedol ym mhob adain o'r adeiladau canolog.
Mae gan Uned 7 ardal fewnol 565ft2 net ac mae mynediad uniongyrchol iddi o'r canol.
Yn yr uned mae yna ddŵr, trydan a theleffoni y tu mewn i'r eiddo.
Dŵr - Prif Gyflenwad Trydan - Prif Gyflenwad, un cyfnod Ffôn - Cysylltiad ar gael
Rhent - £282.50 y mis
Tâl gwasanaeth - £56.50 y mis
Ardrethi busnes heb eu cynnwys - Holwch adran Ardrethi Busnes Cyngor Powys am fwy o wybodaeth.
Mae'r unedau busnes yn cael eu prydlesu at ddibenion busnes yn unig, ac ni ellir eu defnyddio ar gyfer hobïau domestig na storio.
Ni roddir caniatâd manwerthu ar gyfer y safle hwn.
Oherwydd yr adeiladau a rennir a'r mynediad, gall fod cyfyngiadau ar ba weithgareddau busnes y gellir eu gwneud.
Mynegiant o Ddiddordeb - Neuadd Brycheiniog, Ffordd Cambrian, Aberhonddu
Mae'r Cyngor yn cynnal adolygiad o Neuadd Brycheiniog. I lywio ei benderfyniad, mae wedi cael pris marchnad annibynnol o'r eiddo sy'n amlinellu gwerth o £1,000,000. Gellir gwerthu'r eiddo'n Rhydd-ddaliad gyda meddiant gwag ar ôl cwblhau neu rhoddir ystyriaeth o les ar gyfer y cyfan fel Uned Swyddfeydd Masnachol. Gweler y cynllun sy'n dangos yr arwynebedd cyfan.
Mae'r adeilad yn cynnwys strwythur ffrâm ddur gyda phaneli mewnlenwi brics o dan orchudd to llechi ar ongl - mae'r holl ddogfennaeth cydymffurfio yn gyfredol. 33,045 troedfedd sgwâr / 3069.98 metr sgwâr - arwynebedd y llawr mewnol Arwynebedd y Safle 3.21 erw (1.31 hectar)
Gwerth Ardrethol - £133,000
Gwerth Rhent o tua £150,000 y flwyddyn.
Rhaid gwneud pob ymholiad i property.services@powys.gov.uk erbyn Gorffennaf 2025 Os hoffech ymweld â'r safle i weld y tu allan, gallwch wneud hynny ond ni chaniateir mynediad i chi i'r adeilad nes bod penderfyniad wedi'i wneud ynghylch marchnata.
Tir ym Mhenllain, Adfa SY16 3DL
Mae 74 erw o adeiladau a thir torri ar gael mewn hyd at 3 lot o 19 Mehefin 2025 i 15 Medi 2025.
Lot 1 - 57 erw neu oddeutu hynny
Lot 2- 11 erw neu oddeutu hynny
Lot 3- 6 erw neu oddeutu hynny
Dewch i weld - ar unrhyw adeg yn ystod oriau golau dydd wrth feddu ar y manylion hyn. Ni ddylid gyrru unrhyw gerbydau ar y tir.
TENDRAU I'W CYFLWYNO'N YSGRIFENEDIG CYN 12PM 16 Mehefin 2025:
Drwy e-bost i County.farms@powys.gov.uk neu i Ffermydd y Sir, Depo Kirkhamsfield, Pool Road, Y Drenewydd, Powys SY16 3AF
Uned 3 Gweithdai Pentref Glantwymyn
Mae Uned 3 wedi ei lleoli ar safle Gweithdai Pentref Glantwymyn yn Cemmaes Road, Glantwymyn. Mae'r uned wedi'i ffitio â chegin fach, drws dwbl mawr ar gyfer llwytho mawr a defnydd cyfleusterau toiled cymunedol yn y prif adeilad.
Mae Gweithdai Pentref Glantwymyn yn cynnwys grŵp o adeiladau ffatri wedi'u haddasu, pob un wedi'i rannu'n unedau unigol a fwriedir ar gyfer defnydd diwydiannol ysgafn. Mae mynediad i gerbydau i'r safle o'r brif ffordd a pharcio cymunedol.
Mae Antur Gwy yn cynnig nifer o unedau busnes llawr gwaelod a swyddfeydd llawr cyntaf, sydd wedi'u lleoli yn agos at ganol tref sba Llanfair-ym-Muallt, oddi ar yr A470. Mae'r adeilad yn cynnig parcio am ddim, defnydd o ystafelloedd cyfarfod ac mae'n lleoliad cwbl hygyrch gyda lifft i deithwyr ochr yn ochr â chegin gymunedol ac ardaloedd toiled.
Unedau Busnes Llawr Gwaelod sydd ar gael:
Uned 4 - Ar gael o Ar gael nawr
109tr2 [10.13m2]
Rhent misol* - £90.83
Gwasanaeth misol - £27.25
Uned 6 - Ar gael nawr
324tr2 [30.10m2]
Rhent misol* - £270.00
Gwasanaeth misol- £81.00
Argaeledd Swyddfeydd Llawr Cyntaf:
Uned 6 - Ar gael nawr
103tr2 [9.60m2]
Rhent misol* - £81.81
Gwasanaeth misol - £25.83
Uned 7 - Ar gael nawr
179tr2 [16.67m2]
Rhent misol* - £142.05
Gwasanaeth misol- £44.86
*Ac eithrio Trethi Busnes, Cyfleustodau, Gwastraff Masnach a Gwasanaethau Rhyngrwyd.
Mae Tŷ Ladywell yn cynnig gofod swyddfa modern, hyblyg yng nghanol y Drenewydd. Mae'r swyddfeydd sydd wedi'u hadnewyddu'n llawn yn eang, yn olau ac yn effeithlon o ran ynni, ac maent yn elwa ar ffenestri newydd, lifft teithwyr modern, gwell gwresogi a goleuadau LED a reolir gan ffotogell. Mae'r swyddfeydd sydd ar gael yn amrywio o 420tf2-1345tf2 [39m2-125m2]. Mae pob rhan o'r adeilad yn gwbl hygyrch ac o fewn system fynediad ddiogel. Cefnogir y swyddfeydd gan dderbynfa ar y llawr gwaelod, gyda phob llawr yn darparu ardaloedd aros pwrpasol i ymwelwyr, defnydd am ddim o ystafelloedd cyfarfod a mannau seibiant yn ogystal â cheginau ac ardaloedd eistedd ar ffurf caffi.
Daw'r ystafelloedd cyfarfod gyda monitorau sgrin fflat ac maent ar gael i bob tenant i'w harchebu yn rhad ac am ddim. Mae'r ardaloedd seibiant modern ac agored yn darparu lle i staff fwyta, cwrdd ac ymlacio i ffwrdd o'r swyddfa, ac mae ganddynt oergelloedd, microdonnau a chyflenwyr dŵr poeth ac oer, byrddau bwyd a seddi meddal sy'n addas ar gyfer cyfarfodydd anffurfiol.
Mae Tŷ Ladywell wedi'i leoli'n ddelfrydol ar gyfer mynediad hawdd o'r ffordd, bysiau a threnau ac ar yr un pryd mae'n elwa o fod 1 funud yn unig ar droed i ganol y dref hanesyddol gyda gwasanaethau, siopau a chaffis lleol sy'n ffynnu. Wrth ymyl yr A483, mae Tŷ Ladywell yn hawdd ei gyrraedd o'r ffordd ac mae gan yr adeilad faes parcio ceir a beiciau pwrpasol, am ddim i denantiaid yr adeilad a'u hymwelwyr. Taith gerdded o 2 funud yn unig yw hi i'r orsaf fysiau, a thaith gerdded 5 munud i'r orsaf drenau sy'n darparu teithiau uniongyrchol i'r Amwythig (40 munud), Aberystwyth (1 awr 15 munud) a Birmingham (2 awr).
Swyddfeydd sydd ar gael ar hyn o bryd:
2 x swyddfa ar gael yn Nhŷ Ladywell, Y Drenewydd:
Swyddfa Llawr Cyntaf 1.6
926tf2 [86m2]
Rhent* - £11,575.00 y flwyddyn
Gwasanaeth misol - £4,167.00 y flwyddyn
Swît Llawr Cyntaf 1.11/12
1345tf2 [125m2]
Rhent* - £16,812.50 y flwyddyn
Gwasanaeth misol - £6,052.50 y flwyddyn
*Ac eithrio Ardrethi Busnes, Cyfleustodau, Gwastraff Masnach a Gwasanaethau Rhyngrwyd.
Yn dilyn prosiect adnewyddu helaeth, mae gwaith i adfer hen ystafell arddangos beiciau a cheir rhestredig gradd II*; yr hynaf yng Nghymru; ac ailddechrau ei defnyddio fel canolfan fusnes, wedi ei gwblhau.
Y dosbarthiadau defnydd cynllunio ar yr adeilad yw Siopau A1, Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol A2, Bwyd a Diod A3 a Busnes B1.
Caiff yr unedau busnes eu gosod at ddibenion busnes yn unig ac ni ellir eu defnyddio ar gyfer hobi domestig na storio.
Mae'r Llawr Cyntaf yn cynnwys toiledau cymunedol gyda phob uned yn cynnwys eu ceginau eu hunain.
Mae uned 9B ar y llawr cyntaf yn mesur 3041tr2/282.55m2.
Yn dilyn prosiect adnewyddu helaeth, mae gwaith i adfer hen ystafell arddangos beiciau a cheir rhestredig gradd II*; yr hynaf yng Nghymru; ac ailddechrau ei defnyddio fel canolfan fusnes, wedi ei gwblhau.
Y dosbarthiadau defnydd cynllunio ar yr adeilad yw Siopau A1, Gwasanaethau Ariannol a Phroffesiynol A2, Bwyd a Diod A3 a Busnes B1.
Caiff yr unedau busnes eu gosod at ddibenion busnes yn unig ac ni ellir eu defnyddio ar gyfer hobi domestig na storio.
Mae'r Llawr Cyntaf yn cynnwys toiledau cymunedol gyda phob uned yn cynnwys eu ceginau eu hunain.
Mae uned 9A ar y llawr cyntaf yn mesur 1952tr2/181.35m2.