Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Eiddo Ar Osod

Automobile Palace, Llandrindod 

Mae gwaith i adfer hen ystafell arddangos beiciau a cheir rhestredig Gradd II* - yr hynaf yng Nghymru - a'i ddefnyddio unwaith eto fel canolfan fusnes wedi'i gwblhau.

Mae cyfanswm o £3.1 miliwn wedi'i wario ar brynu ac adnewyddu adeilad dull Art Nouveau ac Art Deco yr Automobile Palace yng nghanol Llandrindod, ar ôl i Gyngor Sir Powys sicrhau £1.585 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru a £550,000 gan Lywodraeth y DU. Byddwn nawr yn bwrw ymlaen â gosod yr 8 uned fusnes sydd ar gael yn yr adeilad.  Dyma fanylion maint yr unedau, cost y rhenti a chanrannau'r tâl gwasanaeth:

  • Uned 1A (Cysylltiad Dŵr ar gael) Maint yr Uned 33.3M2, 359ft2, Amcangyfrif o'r Rhent y Flwyddyn £2,333.50, Tâl Gwasanaeth 2.21%
  • Uned 1B Maint yr Uned 24.96M2, 269ft2, Amcangyfrif o'r Rhent y Flwyddyn £1,748.50, Tâl Gwasanaeth 1.66%
  • Uned 2 (Cysylltiad Dŵr ar gael) Maint yr Uned 57.01M2, 614ft2, Amcangyfrif o'r Rhent y Flwyddyn £3,991.00, Tâl Gwasanaeth 3.79%
  • Uned 3 Maint yr Uned 42.48M2, 457ft2, Amcangyfrif o'r Rhent y Flwyddyn £2,970.50, Tâl Gwasanaeth 2.83%
  • Uned 4 Maint yr Uned 47.00M2, 506ft2, Amcangyfrif o'r Rhent y Flwyddyn £3,289.00, Tâl Gwasanaeth 3.12%
  • Uned 5 Maint yr Uned 48.89M2, 526ft2, Amcangyfrif o'r Rhent y Flwyddyn £3,419.00, Tâl Gwasanaeth 3.24%
  • Uned 6 Maint yr Uned 44.84M2, 483ft2, Amcangyfrif o'r Rhent y Flwyddyn £3,139.50, Tâl Gwasanaeth 2.98%
  • Llawr 1af - Uned 9B (Cysylltiad Dŵr ar gael) Maint yr Uned 282.55M2, 3041ft2, Amcangyfrif o'r Rhent y Flwyddyn £16,725.50, Tâl Gwasanaeth 18.75%

Nid yw trethi busnes, cyfleustodau a gwastraff masnach wedi'u cynnwys yn y ffigurau rhent/tâl gwasanaeth.

Y dosbarthiadau defnydd cynllunio ar yr adeilad yw A1 Siopau, A2 Ariannol a Gwasanaethau Proffesiynol, A3 Bwyd a Diodydd a B1 Busnes.

Mae'r unedau busnes yn cael eu prydlesu at ddibenion busnes yn unig ac ni ellir eu defnyddio ar gyfer hobïau neu storio domestig.

Gofyn am fanylion yma Gofyn am fanylion eiddo i'w osod

Uned 23 Gweithdai Ystradgynlais 

Mae Uned 23 yn rhan o safle poblogaidd Gweithdai Trawsffordd yn Ystradgynlais, Powys. Uned 23 wedi'i lleoli o fewn adeilad mwy gyda mynediad i gerbydau dan orchudd yn uniongyrchol i'r uned trwy fynedfa nwyddau gyda drws rholio. Mae'r holl unedau ar safle Gweithdai Ystradgynlais ar osod gyda mynediad i doiledau cymunedol sy'n cael eu gwasanaethu, ac mae pob ardal gymunedol (mewnol ac allanol) yn cael eu glanhau a'u cynnal fel rhan o'r tâl gwasanaeth. Gallwch barcio ar y safle yn rhad ac am ddim.

Rhent: £116.25 y mis, ac eithrio tâl gwasanaeth, trethi busnes a chyfleustodau

Tâl Gwasanaeth: £23.25 y mis, ac eithrio trethi busnes a chyfleustodau

Dŵr - prif gyflenwad

Trydan - prif gyflenwad

Nwy - Ddim yn berthnasol

Ffôn - cysylltiad ar gael

Trethi Busnes: Heb eu cynnwys.Gofynnwch i adran Ardrethi Busnes Cyngor Powys am ragor o wybodaeth.

Mae'r unedau busnes yn cael eu prydlesu ar gyfer dibenion busnes yn unig, ac ni ellir eu defnyddio ar gyfer diddordeb neu storio domestig. Ni roddir caniatâd adwerthu ar gyfer yr uned hon. Oherwydd rhannu adeilad a mynedfa, efallai y bydd cyfyngiadau ar ba weithgareddau busnes y gellir eu cynnal.

Gofyn am fanylion yma Gofyn am fanylion eiddo i'w osod

Cyfle i ddatblygu tir cyflogaeth, Abermiwl, Powys. Map (PDF) [360KB]

Dan Gynnig

  • Mae Cyngor Sir Powys yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb ar gyfer y posibilrwydd o werthu / prydlesu rhan o'r stad ddiwydiannol newydd.
  • Safle maes glas gyda statws Dyraniad Tir Cyflogaeth.
  • Tir i'r de o Abermiwl oddi ar y B4386
  • Safle'n mesur tua 1.28 erw

Gofyn am fanylion yma Gofyn am fanylion eiddo i'w osod


I ymholi, cysylltwch â commercial.property@powys.gov.uk neu ffoniwch 01597 826773