Toglo gwelededd dewislen symudol

Prynu Cerdyn Parcio

Delwedd o arwyddbost ‘parcio’
Mae trwyddedau parcio ceir blynyddol yn gwneud parcio'n rhatach os ydych yn defnyddio ein meysydd parcio talu ac arddangos yn aml. Gallwch ddefnyddio trwydded yn ein holl feysydd parcio arhosiad hir.

Os byddwch yn llenwi ffurflen gais ar-lein ar gyfer eich cerbyd, tra'n aros i drwydded gyrraedd, argraffwch y dderbyneb a'i harddangos ar eich cerbyd am hyd at 14 diwrnod. Ni fyddwch yn cael cosb os bydd y dderbynneb wedi'i harddangos yn glir.

I brynu neu adnewyddu trwydded parcio car neu i ofyn am drwydded parcio car newydd, llenwch un o'r ffurflenni isod:

 

Gwneud Newidiadau i'ch trwydded

Wrth wneud newid i fanylion eich trwydded barcio, bydd tâl o £25yn cael ei godi a rhaid i chi ddychwelyd eich trwydded bresennol i Ddepo Kirkhamsfield, Ffordd Y Trallwng, Y Drenewydd SY16 3AF cyn y bydd trwydded barcio newydd yn cael ei chyhoeddi.  

 

Lle gallwch ddefnyddio'r drwydded barcio

I ganfod meysydd parcio arhosiad hir lle y gellir defnyddio trwyddedau parcio, edrychwch ar ein mapiau parcio mewn trefi..

 

Pa mor hir fydd eich trwydded yn parhau

Mae trwyddedau ar gael am 1, 3, 6 neu 12 mis, yn dibynnu ar y math o gerbyd.

 

Os nad ydych angen eich trwydded bellach

Os nad ydych angen eich trwydded bellach, mae ad-daliadau ar gael ar gyfer pob mis cyflawn sydd heb ei ddefnyddio ar y drwydded. Mae tâl gweinyddu o £25.Dylid anfon y drwydded ac ad-daliad at: Depo Kirkhamsfield, Ffordd Y Trallwng, Y Drenewydd, SY16 3AF.

 

Trwyddedau sydd wedi Dod i Ben

Ni fydd unrhyw negeseuon atgoffa yn cael eu hanfon cyn i'ch trwydded ddod i ben, felly dylech wneud nodyn o hyn yn eich dyddiadur.

 

Mannau Parcio i'r Anabl

Mae mannau parcio i'r anabl yn y rhan fwyaf o lefydd a gallwch barcio am ddim gyda Bathodyn Glas i'r Anabl swyddogol.