Os ydych am osod deunyddiau adeiladu ar unrhyw ran o'r briffordd, mae angen trwydded gan y Cyngor. Fel arfer, bydd y trwyddedau hyn yn cael eu rhoi dan adran 171 Deddf Priffyrdd.
Gallwch gael ffurflen gais trwy ddefnyddio'r manylion ar y dudalen hon. Llenwch y ffurflen a'i dychwelyd i'r swyddfa drwyddedu ardal.