Rhaid i gontractwyr preifat wneud cais am drwydded a derbyn y drwydded honno cyn gwneud gwaith cloddio ar unrhyw ffordd fawr. Mae 'ffordd fawr' yn cynnwys y ffordd gerbydau, llwybrau troed ac ymylon y ffyrdd.
Mae'n drosedd gwneud gwaith o'r fath heb drwydded a gall arwain at erlyniad.
Mae angen trwyddedau ar gyfer gosod cyfarpar newydd neu i gynnal a chadw cyfarpar sydd yna eisoes - er enghraifft pibellau neu geblau.
Bydd trwyddedau yn cael eu rhoi ar gyfer gwaith fel cysylltiadau carthffosiaeth, cyflenwadau dwr preifat, tyllau treialu a sylfeini waliau ffinio ac ati dan adran 50 Deddf Gwaith Stryd a Ffordd Newydd neu adran 171 Deddf Priffyrdd.
Os nad ydych yn fodlon gyda'n penderfyniad, cysylltwch â ni i'w drafod.
Cwynion am waith fford
Dylech wneud unrhyw gwyn am leoliad neu ddiogelwch gwaith ffordd cyn gynted ag sy'n bosibl gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon. Bydd un o'n harolygwyr yn mynd i'r safle i asesu ei ddiogelwch ac yn cymryd unrhyw gamau angenrheidiol.