Toglo gwelededd dewislen symudol

Trwydded i agor ffordd (cloddio ac ati)

Click here to go to the 'Road opening licence (excavations etc)' page

Road opening licence (excavations etc)
Rhaid i gontractwyr preifat wneud cais am drwydded a derbyn y drwydded honno cyn gwneud gwaith cloddio ar unrhyw ffordd fawr.  Mae 'ffordd fawr' yn cynnwys y ffordd gerbydau, llwybrau troed ac ymylon y ffyrdd.

 

Mae'n drosedd gwneud gwaith o'r fath heb drwydded a gall arwain at erlyniad.

Mae angen trwyddedau ar gyfer gosod cyfarpar newydd neu i gynnal a chadw cyfarpar sydd yna eisoes - er enghraifft pibellau neu geblau.

Bydd trwyddedau yn cael eu rhoi ar gyfer gwaith fel cysylltiadau carthffosiaeth, cyflenwadau dwr preifat, tyllau treialu a sylfeini waliau ffinio ac ati dan adran 50 Deddf Gwaith Stryd a Ffordd Newydd neu adran 171 Deddf Priffyrdd.

Gweld y gofrestr gyhoeddus o drwyddedau

Os nad ydych yn fodlon gyda'n penderfyniad, cysylltwch â ni i'w drafod.

 

Cwynion am waith fford

Dylech wneud unrhyw gwyn am leoliad neu ddiogelwch gwaith ffordd cyn gynted ag sy'n bosibl gan ddefnyddio'r manylion cyswllt ar y dudalen hon.  Bydd un o'n harolygwyr yn mynd i'r safle i asesu ei ddiogelwch ac yn cymryd unrhyw gamau angenrheidiol.

 

Ffurflenni cais

Cysylltwch â ni am ffurflen gais

Byddwn yn codi tâl am y drwydded hon.

 

 

Contacts

Feedback about a page here