Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Corff Cymeradwyo Draenio Cynaliadwy (CCS)

O 7 Ionawr 2019, bydd angen systemau draenio cynaliadwy ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy nac 1 tŷ neu lle mae'r arwynebedd adeiladu yn 100m2 neu fwy i reoli dŵr wyneb ar y safle. Rhaid i systemau draenio fod wedi eu dylunio a'u hadeiladu yn unol â safonau gofynnol ar gyfer draenio cynaliadwy a gyhoeddwyd gan Weinidogion Cymru.

Rhaid i'r systemau hyn gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol yn gweithredu yn ei rôl fel Corff Cymeradwyo SDCau (CCS) cyn y bydd gwaith adeiladu'n dechrau.Bydd dyletswydd ar CCS i fabwysiadu systemau sy'n cydymffurfio, cyhyd a'i fod wedi ei adeiladu ac yn gweithredu yn unol â'r cynigion a gymeradwywyd, gan gynnwys unrhyw amodau cymeradwyaeth CCS.