Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Talu Ffioedd Cynllunio

Mae angen ffi i brosesu'r rhan fwyaf o geisiadau cynllunio ac ymholiadau cyn cynllunio. Gallwch wirio cost  ceisiadau cynllunio (PDF) [152KB] neu  ffioedd ceisiadau cyn cynllunio. (PDF) [247KB]

Gallwch hefyd wirio canllawiau am ddim ar y Porth Cynllunio am wybodaeth bellach.

Sut i dalu:

1.      Ar-lein

Gallwch dalu ffi cais statudol yn ddiogel ar ein gwefan wrth gyflwyno eich cais. Dyma'r ffordd gyflymaf o gyflwyno a thalu am eich cais.

Nodwch na all taliadau am ymholiadau ceisiadau cyn cynllunio gael eu gwneud drwy systemau talu ar-lein. Dylai taliadau ar gyfer ceisiadau cyn cynllunio gael eu gwneud dros y ffôn neu drwy siec.

Wrth wneud taliad ar-lein, mae'n hanfodol cynnwys rhif cyfeirnod Porth Cynllunio, sy'n dechrau â 'PP', rhif y cais cynllunio, neu gyfeiriad y safle oddi fewn i'r adran gyfeirio.

Talwch ar-lein yma.

2.      Ffôn

Gallwch dalu â cherdyn drwy ffonio Gwasanaethau Cynllunio. Ffoniwch 01597 827161 (Saesneg) neu 01597 82 6000 (Cymraeg) rhwng 9am-12pm a 1pm-4pm Ddydd Llun i Ddydd Gwener.

Nodwch, wrth dalu, bydd angen eich rhif Porth Cynllunio 'PP' wrth law.

3.      Siec

Rydym ni'n derbyn taliadau siec hefyd yn daladwy i Gyngor Sir Powys. Anfonwch eich siec i: Gwasanaethau Cynllunio, Cyngor Sir Powys, Neuadd y Sir, Llandrindod, LD1 5LG.

Sicrhewch fod pob taliad siec yn cynnwys cyfeirnod y Porth Cynllunio neu gyfeirnod y cais, ynghyd â chyfeiriad safle cais a'ch manylion cyswllt.

Cyswllt

  • Ebost: planning.services@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 827161 (9am - 12pm & 1pm - 4pm)
  • Cyfeiriad : Gwasanaethau Cynllunio, Neuadd y Sir, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau