Hyfforddiant Sgiliau Gwaith Ymyrraeth Cymhwysol mewn perthynas â Hunanladdiad - Ymwybyddiaeth ASIST
Darparwr y Cwrs: New Pathways
Gweinyddydd y Cwrs: Julie Morris
Nod
Nod ASIST yw gwella'r dulliau a ddefnyddir gan bob gweithiwr proffesiynol o fewn iechyd, gofal cymdeithasol a'r gwasanaethau brys i gefnogi pobl sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad.
Adnabod fod y sawl sy'n gofalu ac unigolion sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad yn cael eu heffeithio gan agweddau personol a chymdeithasol tuag at hunanladdiad.
Trafod hunanladdiad mewn dull uniongyrchol gyda rhywun sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad.
Prif Ddeilliannau Dysgu
Dynodi rhybuddion am beryglon a datblygu cynlluniau diogelu cysylltiedig.
Arddangos y sgiliau sy'n ofynnol i ymyrryd gyda pherson sydd mewn perygl o gyflawni hunanladdiad.
Rhestru'r mathau o adnoddau sydd ar gael i unigolyn sydd mewn perygl, gan gynnwys ef neu hi.
Adnabod fod atal hunanladdiad yn ehangach na chymorth cyntaf hunanladdiad ac yn cynnwys hyrwyddo bywyd a hunan-ofal i'r sawl sy'n rhoi gofal.
Dyddiad | Lleoliadau | Amseroedd |
---|---|---|
TBC |
Nid oes tâl i fynychu'r cyrsiau hyn. Fodd bynnag, efallai y bydd peidio â mynychu yn arwain at dâl canslo os na roddir digon o rybudd. |
Mynegi diddordeb yn y cwrs hwn Expression of Interest Form for Training Courses
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau