Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Bydd llinellau ffôn Treth y Cyngor/Trethi Busnes​​​​​​​ ar gau ddydd Mercher 20 Mawrth

Sut allaf gael mynediad at ofal plant a ariennir?

How do I access the funded childcare?

Pa bryd gallaf wneud cais am y Cynnig Gofal Plant?

Gall rhieni cymwys:

  • Fanteisio ar y cynnig ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y mae eu plentyn yn gymwys
  • Manteisio ar y cynnig o ba bynnag bwynt y dymunant yn ystod y tymor, ar yr amod bod eu plentyn yn gymwys o ddechrau'r tymor neu'n gynharach

Mae hyn yn cynnwys rhieni sy'n symud i'r sir neu'n cael gwaith.

Os ydych yn dewis cael mynediad at ofal plant tra'ch bod yn aros i'ch cais gael ei brosesu, bydd hyn ar eich cost eich hun. Ni fydd cynnig cyllid yn cael ei ôl-ddyddio er mwyn talu am unrhyw ofal plant sy'n cael ei ddefnyddio cyn i'ch cais gael ei gymeradwyo.

Dyddiad Geni'r Plentyn:

  • 1 Ionawr 2020 - 31 Mawrth 2020. Ceisiadau'n agor - 28 Chwefror 2023
  • 1 Ebrill 2020 - 31 Awst 2020. Ceisiadau'n agor 4 Gorffennaf 2023
  • 1 Medi 2019 - 31 Rhagfyr 2019. Ceisiadau'n agor - 7 Tachwedd 2022

A allaf ddefnyddio mwy nag un darparwr gofal plant?

Mae manylion pellach ar sut i wneud cais am le addysg meithrin (FPN) ym Mhowys ar gael yma: Gwneud cais am Addysg Blynyddoedd Cynnar (plant 3 a 4 oed) - Cyngor Sir Powys

Darparwyr y Cynnig Gofal Plant i Gymru ym Mhowys (PDF) [142KB]

A allaf gronni fy oriau?

Na allwch.  Gall rhieni:

  • Gael 30 awr o ddarpariaeth FPN cyfunol a gofal plant yn unig bob wythnos
  • Dewis faint o'r 30 awr i'w defnyddio yn yr wythnos honno
  • Deall y bydd unrhyw oriau na chânt eu defnyddio o fewn yr wythnos yn cael eu colli

Plant pedair oed:

Fe allai plant sy'n cael eu geni yn nhymhorau'r hydref neu'r gwanwyn fod yn gymwys i dderbyn y cynnig am fwy na blwyddyn.

Pan fo plentyn yn cael cynnig lle addysg llawn amser cyn y mis Medi ar ôl ei ben-blwydd yn bedair oed, er enghraifft:

  • Y tymor ar ôl ei ben-blwydd yn bedair oed
  • Y tymor y mae'n troi'n bedair oed

Ni fydd:

  • â hawl bellach i dderbyn yr Cynnig Gofal Plant yn ystod y tymor ysgol, ond bydd
  • yn parhau'n gymwys i dderbyn 30 awr yr wythnos o ddarpariaeth gwyliau hyd at fis Medi ar ôl ei ben-blwydd yn bedair oed

Sut fydd y cynnig yn gweithio y tu allan i amser tymor?

Mae'r Cynnig Gofal Plant yn cynnwys hyd at 48 wythnos y flwyddyn, gyda 39 ohonynt yn cael eu cyfrif yn 'amser tymor' a 9 yn 'ddarpariaeth gwyliau'.

  • Nid yw darpariaeth y Cyfnod Sylfaen ar gael y tu allan i'r 39 wythnos yn ystod y tymor
  • Bydd y 30 awr gyfan ar gyfer gofal plant yn unig yn ystod y 9 wythnos sy'n weddill
  • Bydd 3 wythnos o ddarpariaeth gwyliau yn cael ei neilltuo ar gyfer pob plentyn ar ddechrau pob tymor
  • Bydd dolen i'r ffurflen archebu gwyliau yn cael ei e-bostio atoch unwaith y byddwch wedi'ch cymeradwyo ar gyfer y Cynnig Gofal Plant

Ymgeisio am y cynnig Gofal Plant ar gyfer Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol Cymru ar gyfer plentyn cymwys CYN Ionawr 2023: Wneud cais am yr 20 awr ychwanegol o ofal plant Wneud cais am yr 20 awr ychwanegol o ofal plant

Ymgeisio am y cynnig Gofal Plant ar gyfer Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol Cymru o Ionawr 2023: Cael 30 awr o ofal plant i blant 3 a 4 oed Llywodraeth Cymru

Cyswllt

Rhowch sylwadau am dudalen yma