Sut allaf gael mynediad at ofal plant a ariennir?

Coronafeirws (COVID-19)
Pa bryd gallaf wneud cais am y Cynnig Gofal Plant?
Dyddiad Geni'r Plentyn:
1 Medi 2017 - 31 Rhagfyr 2017. Ceisiadau ar agor - 16 Tachwedd 2020
1 Ionawr 2018 - 31 Mawrth 2018. Ceisiadau ar agor - 8 Chwefror 2021
1 Ebrill 2018 - 31 Awst 2018. Ceisiadau ar agor - 5 Gorffennaf 2021
A allaf ddefnyddio mwy nag un darparwr gofal plant?
Ie - gallwch ddefnyddio hyd at DDAU leoliad gofal plant cofrestredig y diwrnod yn ychwanegol ar eu lleoliad Meithrin y Cyfnod Sylfaen (FPN) ar unrhyw ddiwrnod penodol.
A allaf gronni fy oriau?
Na. Nid fydd croniadau / system fancio ar waith o fis Medi 2018 ar draws yr ardaloedd peilot. Bydd cyfanswm o 30 awr yr wythnos o ddarpariaeth Meithrin y Cyfnod Sylfaen a gofal plant cyfunol yn cael ei ddarparu i rieni, gyda rhieni yn dewis faint o'r 30 awr i'w ddefnyddio. Bydd unrhyw oriau na ddefnyddir mewn wythnos yn cael eu colli.
Sut fydd y cynnig yn gweithio y tu allan i amser tymor?
Bydd y cynnig gofal plant yn darparu ar gyfer hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Mae Darpariaeth Meithrin y Cyfnod Sylfaen ar gael hyd at 39 wythnos y flwyddyn, felly bydd rhieni cymwys yn gallu cael mynediad at 30 awr o ofal plant am y 9 wythnos sy'n weddill o'r flwyddyn.
Gall rhieni cymwys gael mynediad at eu darpariaeth gwyliau o 9 wythnos pryd bynnag y byddant yn dewis. Fodd bynnag, cyfrifoldeb y rhiant yw dod o hyd i ddarparwr sy'n cynnig y ddarpariaeth sy'n gweddu orau i'w hanghenion. Er diben y cynlluniau peilot, bydd angen i rieni ddefnyddio eu darpariaeth mewn blociau wythnos o hyd. Ni ellir cronni oriau o ofal plant ar draws wythnosau.
Cyswllt
Rhowch sylwadau am dudalen yma