Toglo gwelededd dewislen symudol

Awgrymiadau ar gyfer Ailgylchu dros y Nadolig

Papur a cherdyn

  • Gallwch ailgylchu cardiau Nadolig, papur lapio a phapur heb ddisgleirion (glitter) arnynt. Mae'r disgleirion yn achosi problemau yn y broses ailgylchu gan nad oes modd eu tynnu allan. Cofiwch dorri unrhyw ddarnau disglair neu eitemau nad ydynt o bapur - er enghraifft bathodynnau neu fatris - oddi ar eich cardiau Nadolig cyn ailgylchu'r cardiau. Dylech roi unrhyw bapur lapio â disgleirion arno yn eich bin du ar olwynion.
  • Gyda phapur lapio a bagiau rhoddion mae prawf crensian hwylus tu hwnt i'w gael: os ydych chi'n eu creinsio a 'dydyn nhw ddim yn neidio'n ôl, rydyn ni'n gallu eu hailgylchu. Felly, nawr r'ych chi'n gwybod!
  • Cofiwch dynnu unrhyw selotep, dolen neu ruban o'ch papur lapio cyn i chi ei ailgylchu.
  • R'ych chi'n gallu ailgylchu pecynnau cardfwrdd gan gynnwys paciau a ddaw trwy siopa arlein. Gwastadwch nhw i arbed lle gan dynnu'r polystyren neu blastig. Peidiwch â'u gadael allan yn y glaw. Os yw cardfwrdd yn mynd yn wlyb mae llwydni'n gallu tyfu sy'n golygu nad oes modd ei ailgylchu
  • Mae'n hawdd anghofio am diwbiau papur tŷ bach ond digon hawdd yw eu hailgylchu ac mae'n werth ei wneud
  • Os nad ydych chi'n sicr bod rhywbeth wedi'i wneud o bapur neu gardfwrdd a'ch bod yn gallu ei ailgylchu mae'n debyg nad yw ef.

 

Gwastraff bwyd

  • Defnyddwich eich cadi cegin ar gyfer eich holl wastraff bwyd dros y Nadolig gan gynnwys esgyrn twrci, crwyn tatws, masglau neu blisg wyau a chydau te
  • Os oes gennych dwrci dros ben, beth am wneud brechdanau neu gawl a'i gael i swper?

 

Gwydr

Wrth i adeg brysur y Nadolig fynd heibio mae pobl yn taflu 13,500 tunnell o boteli gwydr! Felly cofiwch, os oes gennych boteli gwydr, gan gynnwys jariau saws llugaeron neu friwgig, rhowch nhw allan i'w hailgylchu!

 

Caniau a phethau plastig

R'ych chi'n gallu ailgylchu caniau bwyd a diod glân, ffoil alwminiwm, poteli plastig glân (cofiwch ystreulio a gwasgu'r poteli a thynnu'r caeadau), caniau erosol, dysglau bwyd glân, potiau a thybiau glân

Cofiwch roi'r canlynol yn eich bin olwynion du a: plastig meddal gan gynnwys haenen lynu, bagiau plastig, amlap swigod ac amlap cylchgronau.

 

Coed Nadolig go iawn

Wrth i adeg y Nadolig dynnu at ei therfyn mae pobl yn taflu tua 250 tunnell o goed go iawn. Ond r'ych chi'n gallu eu hailgylchu os ewch chi â nhw i'ch canolfan ailgylchu gwastraff cartref agosaf. Cofiwch dynnu addurniadau megis tinsel, trugareddau a baubles. Gallwch chi weld pryd mae'ch canolfan agosaf ar agor trwy fynd i Canolfannau Ailgylchu

 

Bydd rhaid i ddeiliaid tai sydd am ddefnyddio cerbydau masnachol i fynd â'u gwastraff ac ailgylchu cartref Nadolig i ganolfannau wneud cais am drwydded ôl-gerbydau neu cherbydau masnachol (CVT) gan y cyngor. Gallwch chi wneud hyn trwy fynd i Trwydded Cerbydau Masnachol ac Ôl-gerbydau (CVT)