Ar gyfer pwy mae'r Bathodyn Glas?
Pwy sy'n gallu cael Bathodyn Glas?
Mae bathodyn glas yn ei gwneud yn haws i bobl anabl barcio'n agosach at y llefydd y maen nhw am gyrraedd. Mae'n rhaid i'w anabledd i fod yn un sylweddol ac am fwy na 12 mis o hyd. Hefyd, mae'n rhaid bod yr ymgeiswyr:
- yn methu cerdded
- neu'n cael anhawster mawr i gerdded
Hefyd:
- gall pobl gyda nam gwybyddol gwneud cais (Dan y tab anhawster wrth gerdded)
- gall ymgeisydd fod yn yrrwr neu deithiwr
Gwiriwch y Cymhwysedd Bathodyn Glas yma Gwiriad Cymhwysedd Bathodyn Glas
Bathodynnau glas ar gyfer sefydliadau/mudiadau
Gellir rhoi bathodyn glas i sefydliadau/mudiadau sy'n gyfrifol am ofal a chludiant pobl anabl. Gellir ei roi pan fydd cerbyd sefydliad/mudiad yn cael ei ddefnyddio i gludo pobl anabl a fyddent fel arfer yn gymwys i gael bathodyn.
Codir tâl o £10.00 ar gyfer pob bathodyn.
Mae nodiadau canllaw Llywodraeth Cymru yn nodi ei fod yn annhebygol y bydd tacsis, cwmnïau llogi preifat a chymunedol yn gymwys i gael bathodynnau glas ar gyfer sefydliadau/mudiadau. Mae hyn oherwydd nad ydynt fel arfer yn delio gyda gofal pobl anabl sy'n cwrdd â'r meini prawf cymhwysedd. Er, gall cwmnïau o'r fath defnyddio bathodyn glas unigolyn wrth gludo'r unigolyn hynny fel teithiwr.
Cyswllt
Eich sylwadau am ein tudalennau