Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Ffurflen Hawlio Llifogydd yn y Cartref - Storm Bert a Storm Darragh: Gawsoch chi eich effeithio???

Adnewyddu / ailosod bathodyn glas

Pryd i ail-ymgeisio

Nid ydym yn adnewyddu bathodynnau, bydd angen i chi ail-ymgeisio.  Nid ydym yn anfon llythyron atgoffa, oherwydd mae'r dyddiad y bydd y bathodyn yn dod i ben i'w weld yn glir ar y bathodyn.  Gallwch ailymgeisio hyd at ddeuddeg wythnos cyn y bydd eich bathodyn cyfredol yn dod i ben.

Gallwch ail-ymgeisio yma Gwiriad Cymhwysedd Bathodyn Glas

Dychwelyd bathodynnau sydd wedi dod i ben

Mae'n rhaid i chi ddychwelyd eich bathodyn sydd wedi dod i ben.  Os byddwch yn methu gwneud hyn gall eich bathodyn gael ei dynnu oddi wrthych.

Dychwelwch y bathodyn i'r cyfeiriad isod

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau

Rhowch wybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau i bluebadges@powys.gov.uk

Os byddwch yn colli eich bathodyn neu os yw'n cael ei ddwyn, ffoniwch y Ganolfan Gwasanaethau Cwsmer ar y rhif isod i ail-ymgeisio.

Os yw eich bathodyn wedi cael ei ddwyn, rhowch wybod i'r Heddlu.  Bydd angen i chi roi'r rhif cyfeirnod troseddau y byddwch wedi cael gan yr Heddlu i ni.

Os byddwch yn cael un, efallai y byddwn yn codi tâl o £10 am un newydd.  Efallai bydd angen i chi ddarparu dogfennau eraill os yw manylion eich anabledd wedi newid. 

Ni fydd ymgeiswyr yn cael ad-daliad am unrhyw gostau sydd ynghlwm â chael tystiolaeth i gefnogi eu cais.

Cyswllt

  • Ebost: bluebadges@powys.gov.uk
  • Ffôn: 01597 827466
  • Cyfeiriad: Cynllun Bathodyn Parcio i Bobl Anabl, Neuadd Y Sir, Spa Road East, Llandrindod, Powys, LD1 5LG

Eich sylwadau am ein tudalennau

 

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu