Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Help wrth roi biniau allan ar gyfer casgliadau

Os ydych yn byw ar ben eich hunan a'ch bod yn anabl, efallai y byddwch yn gymwys i gael help i roi eich biniau allan yn barod ar gyfer casglliadau. Casgliad a chymorth (assisted collection) yw'r enw am hyn.

Pwy sy'n gymwys?

  • Byddwn ond yn gallu helpu os nad oes neb yn byw gyda chi a all roi eich biniau a blychau ailgylchu allan ar gyfer casgliadau.
  • Ni fyddwch yn gymwys os ydych yn byw ar ddiwedd lôn hir neu ffordd breifat neu os bydd eich biniau'n cael eu casglu o fan casglu cymunedol.

Os ydych yn poeni y byddwch yn cael anhawster gyda hyn, ond nad ydych yn gymwys am help, gellir prynu trolïau o amrywiol siopau neu fannau gwerthu.

Cyn i chi ymgeisio

Os oes gennych Fathodyn Glas, byddwch yn barod i gyflwyno rhif eich bathodyn a chyfeiriad yr awdurdod â'i gyflwynodd i chi. Os nad oes gennych fathodyn glas, gallwch barhau i ofyn am y cynllun casgliad a chymorth.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Byddwn yn gwirio eich manylion ar eich ffurflen gais a byddwn yn ymweld â'ch eiddo i wirio'r mynediad at eich biniau. Nid oes rhaid i chi fod yn bresennol ar gyfer yr archwiliad hwn. Yn dilyn hyn, byddwn yn anfon neges e-bost neu neges destun atoch i ddweud wrthych chi a yw eich cais wedi cael ei gymeradwyo ai peidio.

Mae'r gwasanaeth yn cael ei fonitro ac efallai y byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn neu e-bost i gadarnhau a ydych dal i fod angen y gwasanaeth a'ch bod yn parhau i fod yn gymwys i'w dderbyn. Rhowch wybod i ni am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau a all effeithio ar eich gallu i fod yn gymwys.

Gwneud Cais am Gasgliad â Chymorth Gwneud Cais am Gasgliad â Chymorth