Ffurflen gais am y cynnig gofal plant
Y cynnig gofal plant.
I wneud cais am y Cynnig Gofal Plant, os cafodd eich plentyn ei eni ar ôl:
- 1 Medi 2019
Bydd angen i chi greu neu ddefnyddio cyfrif presennol Porth y Llywodraeth a gwneud cais am y Gwasanaeth Digidol Cenedlaethol Cymru Cynnig Gofal Plant: Cael 30 awr o ofal plant i blant 3 a 4 oed Llywodraeth Cymru
Os oes gennych gyfrif Porth Llywodraeth eisoes, gallwch fewngofnodi wrth ddefnyddio eich manylion mewngofnodi cyfredol. Os nad oes gennych gyfrif Porth Llywodraeth gallwch greu un.
Gallwch ymgeisio 90 dydd cyn pen blwydd eich plentyn yn dair oed. Os fyddwch yn ymgeisio cyn hynny ni chaiff eich cais ei adolygu.
Rhaid i un rhiant arweiniol gwblhau'r cais, hyd yn oed os ydych chi'n rhannu cystodaeth y plentyn.
Sylwch y bydd y ffurflen gais yn cau lawr ar ôl cyfnod. Dylech ei llenwi mewn un ymgais, nid yw'n bosibl ei harbed a dod nôl ati nes ymlaen.
Bydd angen i chi roi'r dystiolaeth ganlynol er mwyn profi eich bod chi'n gymwys am y cynnig:
- tystysgrif geni (fersiwn hir) neu
- tystysgrif geni (fersiwn fer) gyda phrawf o gyfrifoldeb rhiant
- Tystiolaeth o gyfeiriad - bil treth y cyngor neu fil cyfleustodau.
- Slipiau cyflog dros dri mis. Os ydych newydd ddechrau swydd newydd ac yn methu darparu gwerth 3 mis o slipiau cyflog, rhowch gopi o'ch cytundeb gwaith newydd. Mae'n bosibl y bydd yr Uned Gofal Plant yn cysylltu â chi nes ymlaen am slipiau cyflog i gyd-fynd â'ch cytundeb. (Os ydych yn rhiant mewn addysg, dilynwch y canllawiau isod)
Bil prif wasanaethau wedi'i dyddio o fewn y tri mis diwethaf
Rhieni mewn addysg neu hyfforddiant
Gall rhieni mewn addysg neu hyfforddiant brofi eu bod yn gymwys drwy ddarparu tystiolaeth o gofrestru ffurfiol ar gwrs Addysg Uwch neu Addysg Bellach berthnasol.
Neu
Pan fo rhiant wedi ymgeisio a chael cynnig lle ar gwrs Addysg Uwch neu Addysg Bellach perthnasol, ond nad yw hyd yma wedi gallu cofrestru, dylai ddarparu tystiolaeth o gynnig ffurfiol o le ar gwrs.
Gallwn brosesu eich cais dipyn cyflymach os ydych chi'n gallu atodi'r dystiolaeth at y cais.
Rhieni sy'n hunangyflogedig:
- Os ydych chi'n hunangyflogedig, rhowch gopi o ffurflen dreth hunanasesiad mwyaf diweddar
- Os ydych newydd ddechrau fod yn hunangyflogedig, bydd angen i chi ddangos tystiolaeth o'ch Cyfeirnod Treth Unigryw gan yr HMRC. Bydd rhaid i chi hefyd roi amcan o'ch incwm am y flwyddyn gyntaf.
I weld pryd y dylech wneud cais am yr oriau gofal plant 20 awr ychwanegol ewch i Sut allaf gael mynediad at ofal plant a ariennir?
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at fis@powys.gov.uk
Cymru Digidol: Cael 30 awr o ofal plant i blant 3 a 4 oed: Ymgeisiwch Llywodraeth Cymru
Wneud cais am yr 20 awr ychwanegol o ofal plant Wneud cais am yr 20 awr ychwanegol o ofal plant
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich ffurflen gais neu os oes angen i chi gyflwyno tystiolaeth gefnogol, anfonwch at Dîm Gofal Plant Powys drwy e-bost: childcareoffer@powys.gov.uk neu ffoniwch: 01545 570881.