Toglo gwelededd dewislen symudol

Diwrnod casglu biniau

Bin calendar icon

Ymddiheurwn am yr anghyfleustra, ond ni fydd casgliadau gwastraff gardd yn yr ardaloedd isod o Ogledd Powys a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher 29 Hydref drwodd i ddydd Gwener 31 Hydref yn cael eu cwblhau mewn pryd. 
Yn anffodus, bydd angen i gwsmeriaid aros tan y casgliad nesaf a drefnwyd iddynt a byddwn yn clirio unrhyw ddeunydd dros ben sydd wedi cronni yn y cyfamser. 
Gogledd Powys - Casgliadau a drefnwyd ar gyfer dydd Mercher 29 Hydref: CAERSWS, CARNO, CLATTER, LLANDINAM, LLANWNOG, LLAWR-Y-GLYN, PONTDOLGOCH, TREFEGLWYS, Y FAN 
Gogledd Powys - Casgliadau a drefnwyd ar gyfer dydd Iau 30 Hydref: ABER-MIWL, CAERSWS, YR YSTOG, CERI, LLANMYREWIG, MACHYNLLETH, Y DRENEWYDD 
Gogledd Powys - Casgliadau a drefnwyd ar gyfer dydd Gwener 31 Hydref: ABERCEGIR, ABERHOSAN, DAROWEN, Y BONTFAEN, MACHYNLLETH, MELIN-BYRHEDYN, TREFALDWYN, PENEGOES 
Peidiwch â rhoi gwybod am gasgliad a fethwyd cyn y dyddiad casglu a aildrefnwyd. Caiff adroddiadau a wneir cyn y dyddiad hwn eu canslo.

Rhowch eich bocsys allan erbyn 7.30 a.m. ar y diwrnod casglu arferol.  Rydym yn casglu gwastraff bwyd a deunydd ailgylchu bob wythnos.  Bydd y biniau ar olwynion a'r sachau porffor yn cael eu casglu bob 3 wythnos.  Ni fydd y lorïau'n troi nôl i gasglu unrhyw focsys/sachau/biniau sydd heb eu rhoi allan mewn pryd.  Os bydd hyn yn digwydd, ewch â'ch bocsys a'ch sbwriel nôl tan y diwrnod casglu nesaf.  Neu gallwch fynd â deunydd ailgylchu i'r ganolfan ailgylchu a gwastraff o'r cartref.

Gall tywydd garw effeithio ar gasgliad neu efallai bod cerbyd wedi torri i lawr neu fod gwaith ar y ffordd. defnyddiwch ein gwiriwr cod post ar-lein i gadarnhau'r trefniadau i'ch eiddo chi:

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu