Diwrnod casglu biniau

Coronafeirws (COVID-19)
Rhowch eich bocsys allan erbyn 7.30 a.m. ar y diwrnod casglu arferol. Rydym yn casglu gwastraff bwyd a deunydd ailgylchu bob wythnos. Bydd y biniau ar olwynion a'r sachau porffor yn cael eu casglu bob 3 wythnos.
Ni fydd y lorïau'n troi nôl i gasglu unrhyw focsys/sachau/biniau sydd heb eu rhoi allan mewn pryd. Os bydd hyn yn digwydd, ewch â'ch bocsys a'ch sbwriel nôl tan y diwrnod casglu nesaf. Neu gallwch fynd â deunydd ailgylchu i'r safle ailgylchu cymunedol agosaf neu ganolfan ailgylchu a gwastraff o'r cartref.