Toglo gwelededd dewislen symudol

Ailgylchu eitemau mawr

Casgliad gwastraff swmpus Powys

Os oes angen cael gwared ar bethau mawr arnoch chi fel celfi neu offer trydanol (gwastraff swmpus) gallwn ni eu casglu i chi. Gofynnwch am gasgliad gwastraff swmpus yma. 

Canolfannau Ailgylchu

Os allwch chi gludo pethau mawr o'r cartref eich hun, gallwch chi fynd â nhw i ganolfan ailgylchu a gwastraff y cartref lleol.

 

Cynlluniau Ailddefnyddio

Gwasanaeth Glanhau Powys 

Mae Gwasanaeth Glanhau Powys yn gweithio ochr yn ochr â'r tîm Atal a lleddfu digartrefedd ym Mhowys. Maen nhw'n chwilio am eitemau cartref diangen y gellir eu hailgylchu (ond rhaid eu bod yn lân ac yn gweithio). Maen nhw am roddi'r rhain i bobl ym Mhowys sy'n fregus neu'n ddifreintiedig.

Rydym yn eu casglu am ddim.

Am fwy o wybodaeth ffoniwch 01597 827396 neu anfonwch e-bost i mobileservicesupport@powys.gov.uk

Cynllun casglu dodrefn Phoenix

Elusen gofrestredig ddielw yw Phoenix. Maen nhw'n casglu celfi a roddwyd, nwyddau cartref ac eitemau trydanol gan y cyhoedd. Wedyn maen nhw'n eu glanhau a'u didoli cyn eu rhoi i drigolion Powys y mae angen celfi rhad arnynt.

Bydd Phoenix yn casglu am ddim, ffon 01686 623336 am fwy o wybodaeth.

Beth am gael gwared â fe am ddim trwy wefannau ar-lein am ddim megis Freegle?