Cael cyngor bywyd gwyllt
Cliciwch ar y lluniau isod am gyngor penodol ar ymholiadau cyffredin ar fywyd gwyllt. Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw gwestiwn ar fioamrywiaeth sydd heb ei drin yma neu ar dudalennau Partneriaeth Bioamrywiaeth Powys.
Rheoli chwyn ymledol brodorol ac anfrodorol
Mae'r Cyngor Sir yn rheoli planhigion sy'n broblem ar dir sy'n eiddo i ni neu ar dir yr ydym yn gyfrifol amdano, megis ymylon ffyrdd. Perchnogion tir unigol sy'n gyfrifol am reoli'r planhigion ar eu tir eu hunain, gan gynnwys ar hyd glannau cyrsiau dwr.
Mae dau fath cyffredinol o blanhigion sy'n peri problemau:
- Chwyn niweidiol
- Planhigion ymledol anfrodorol
Chwyn Niweidiol
Mae pum rhywogaeth wedi'u cynnwys yn Neddf Chwyn 1959: Llysiau'r biswail (Senecio jacobaea), Marchysgallen (Cirsium vulgare), Ysgallen y maes (Cirsium arvense), Tafolen y cwn (Rumex obtusifolius) a Thafolen grych (Rumex crispus). Mae'r rhain oll yn frodorol i Brydain ac nid yw'n anghyfreithlon os yw'r rhain yn tyfu ar eich tir. Fodd bynnag, gellir rhoi rhybuddion gorfodi i berchnogion tir neu ddeiliaid er mwyn atal unrhyw un o'r rhywogaethau hyn rhag lledaenu ar dir amaethyddol, yn enwedig tir a ddefnyddir ar gyfer pori neu gynhyrchu gwair neu silwair.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i adnabod a rheoli chwyn niweidiol ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi llunio Cod Ymarfer i Atal a Rheoli Lledaenu Llysiau'r Biswail ac mae'n gyfrifol am ddelio â chwynion penodol am Lysiau'r Biswail.
Defnyddiwch ein Ffurflen Rhoi Gwybod i ddweud wrthym am chwyn niweidiol neu blanhigion ymledod anfrodorol ar ymylon ffyrdd.
Chwyn Niweidiol
Mae pum rhywogaeth wedi'u cynnwys yn Neddf Chwyn 1959: Llysiau'r biswail (Senecio jacobaea), Marchysgallen (Cirsium vulgare), Ysgallen y maes (Cirsium arvense), Tafolen y cwn (Rumex obtusifolius) a Thafolen grych (Rumex crispus). Mae'r rhain oll yn frodorol i Brydain ac nid yw'n anghyfreithlon os yw'r rhain yn tyfu ar eich tir. Fodd bynnag, gellir rhoi rhybuddion gorfodi i berchnogion tir neu ddeiliaid er mwyn atal unrhyw un o'r rhywogaethau hyn rhag lledaenu ar dir amaethyddol, yn enwedig tir a ddefnyddir ar gyfer pori neu gynhyrchu gwair neu silwair.
Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut i adnabod a rheoli chwyn niweidiol ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi llunio Cod Ymarfer i Atal a Rheoli Lledaenu Llysiau'r Biswail ac mae'n gyfrifol am ddelio â chwynion penodol am Lysiau'r Biswail.
Defnyddiwch ein Ffurflen Rhoi Gwybod i ddweud wrthym am chwyn niweidiol neu blanhigion ymledod anfrodorol ar ymylon ffyrdd.
Chwyn Ymledol
Planhigion ymledol anfrodorol yw'r rhywogaethau hynny sydd wedi sefydlu eu hunain yn y gwyllt ar ôl cael eu cyflwyno i Brydain fel planhigion gardd addurniadol. Yn ol Deddf Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt 1981 mae'n drosedd i blannu neu achosi unrhyw rywogaeth a nodir yn Atodlen 9 y Ddeddf i dyfu yn y gwyllt.
Mae planhigion ymledol anfrodorol ac anifeiliaid yn effeithio arnom i gyd. Amcangyfrifir fod rhywogaethau ymledol anfrodorol yn costio £1.7 biliwn bob blwyddyn i economi Prydain (er enghraifft mewn amaethyddiaeth, coedwigaeth, pysgota, diwydiannau datblygu a dwr). Maen nhw hefyd yn:
- achosi problemau iechyd
- cynyddu perygl o lifogydd
- difrodi eiddo
- arwain at ddirywiad mewn bioamrywiaeth frodorol
Y planhigion ymledol anfrodorol mwyaf cyffredin ac eang ym Mhowys yw Llysiau'r Dial, Efwr Enfawr a Ffromlys Chwarennog. Ceir hefyd planhigion dwr ymleodol anfrodorol mewn rhai rhannau o Bowys sef Alaw Grych (Curly Waterweed) a Briweg Corsydd Awstralia (Australian Swamp Stonecrop).
Defnyddiwch ein Ffurflen Rhoi Gwybod i ddweud wrthym am chwyn niweidiol neu blanhigion ymledod anfrodorol ar ymylon ffyrdd.
Llysiau'r Dial
Os oes gennych Llysiau'r Dial yn tyfu ar eich tir, chi sy'n gyfrifol am wneud yn siwr nad yw'n ymledu ar dir cyfagos. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi llunio cyfarwyddyd defnyddiol ar sut i reoli neu gael gwared ar Lysiau'r Dial. Efallai hefyd y byddwch am gael help arbenigol gan gontractwr profiadol gyda chymwysterau priodol i'w drin. Lle mae'r planhigion yn ymledu dros ffiniau perchnogion gwahanol, bydd angen i'r holl perchnogion/deiliaid gydweithio i ddatrys y broblem. Nid yw'r cyngor yn cynnig gwasanaeth i reoli rhywogaethau anfrodorol sy'n tyfu ar dir preifat ond rydym yn barod i weithio gyda pherchnogion tir cyfagos i reoli Llysiau'r Dial lle mae hefyd yn tyfu ar ein tir.
I gael gwybodaeth ar adnabod a rheoli Llysiau'r Dial a rhywogaethau ymledol anfrodorol eraill, ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd y wybodaeth gan y Gymdeithas Garddwriaethol Frenhinol hefyd yn ddefnyddiol i arddwyr
Defnyddiwch ein Ffurflen Rhoi Gwybod i ddweud wrthym am chwyn niweidiol neu blanhigion ymledod anfrodorol ar ymylon ffyrdd.
Ystlumod
Mae 18 rhywogaeth o ystlumod yn y DG (sydd tua chwarter o rywogaethau mamaliaid Prydain gyfan). O'r rhywogaethau hyn, mae 14 wedi'u cofnodi ym Mhowys.
Er bod ystlumod yn byw yn naturiol mewn coed ac ogofâu, mae nifer wedi addasu i glwydo mewn adeiladau megis tai, eglwysi, ysguboriau, twneli a phontydd. Mae'r holl ystlumod cynhenid yn bwydo ar bryfaid ac nid ydynt yn perthyn i lygod a chnofilod eraill. Golyga hyn nad yw ystlumod sy'n clwydo mewn adeiladau yn cnoi trwy wifrau, pren, dodrefn nac eitemau eraill.
Mae cwymp sylweddol wedi bod mewn poblogaethau Prydeinig ac Ewropeaidd yn ystod y can mlynedd ddiwethaf sy'n golygu fod pob math o ystlum yn y DG a'u mannau clwydo'n cael eu diogelu'n llym gan y gyfraith.
Os ydych angen cyngor am ystlumod, mae .GOV.UK a'r Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod wedi llunio cyfarwyddwyd i berchnogion mannau clwydo a datblygwyr a rheolwyr safleoedd, gan gynnwys cyfarwyddyd am ofynion deddfwriaeth a thrwyddedau. Mae'r Ymddiriedolaeth Gwarchod Ystlumod hefyd yn rhoi cyngor trwy'r Llinell Gymorth Genedlaethol ar Ystlumod.
Os ydych yn amau bod ystlumod yn clwydo gerllaw, dylech siarad â Natural Resources Wales - Bats cyn i chi ddechrau ar unwaith waith strwythurol neu waith swnllyd iawn, codi goleuadau, tocio neu dorri coed. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi cyngor i chi ar y ffordd orau o weithio. Os dewch o hyd i unrhyw ystlumod pan fyddwch yn gweithio ar eiddo neu goeden, dylech roi'r gorau i weithio ar unwaith a chysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru am gyngor.
Os ydych angen cyngor am ystlumod mewn perthynas â chais cynllunio ewch i dudalen Cynllunio a Datblygu (bywyd gwylit).
Adar
Mae pob aderyn, eu nythod a'u hwyau'n cael eu diogelu'n gyfreithlon ym Mhrydain. Mae rhai adar, megis tylluanod gwyn, yn cael eu diogelu'n ychwanegol sy'n golygu ei fod yn anghyfreithlon i darfu ar yr adar pan fyddant ar eu nyth neu gerllaw.
Rydym yn argymell, er mwyn diogelu adar sy'n nythu (ac i gydymffurfio â'r gyfraith), na ddylid torri gwrychoedd a choed rhwng mis Mawrth ac Awst. Weithiau, bydd yr adar yn nythu'n gynt neu'n hwyrach, felly os ydych yn credu fod aderyn yn nythu, dylech osgoi torri tan fod y tymor nythu wedi gorffen yn llwyr.
Mae'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar yn rhoi cyngor defnyddiol iawn ar rai materion cyffredinol megis:
- Delio ag adar gwyllt sydd wedi'u hanafu
- Adar sy'n nythu yn y to
- Symud nythod adar
- Rheoli gwrychoedd gardd
Mae hefyd yn rhoi cyngor i ffermwyr a pherchnogion tir ar reoli cynefinoedd ar gyfer adar trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys cyngor penodol i'r rheiny sy'n rhan o gynlluniau amaeth-amgylcheddol.
Os ydych angen cyngor am adar mewn perthynas â chais cynllunio ewch i'r adran Cynllunio a Rheoli Adeiladu.
Cynllunio a datblygu (bywyd gwyllt)
Mae'n bwysig ystyried pa effaith y gall datblygiad ei gael ar fywyd gwyllt lleol. Os oes rhywogaethau wedi'u diogelu ar safle sy'n cael ei ddatblygu neu'n agos ato, gellir rhoi mesurau yn eu lle i'w diogelu tra bod y gwaith yn cael ei wneud.
Gall nifer o ddatblygiadau fynd yn eu blaen fel y cynlluniwyd; mewn achosion eraill bydd angen gwneud newidiadau i ddiogelu'r bywyd gwyllt ar y safle.
Wrth benderfynu ar gais, mae'n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol ystyried unrhyw effaith ar fywyd gwyllt. Yn aml, bydd cynnwys nodweddion sy'n amddiffyn a gwella bywyd gwyllt ac amrywiaeth yn gynnar mewn prosiect, fel arfer cyn bod cais cynllunio yn cael ei gyflwyno, yn arbed amser ac arian. Gellir cael gwybodaeth ar rywogaethau a chynefinoedd a gofnodwyd ym Mhowys, gan gynnwys rhywogaethau a safleoedd wedi'u gwarchod, o ganolfan cofnodi biolegol lleol y sir.
Os oes gennych bryder am fioamrywiaeth sy'n gysylltiedig â chaniatad adeilad rhestredig, ceisiadau cynllunio, penderfyniadau cynllunio neu orfodi amodau cynllunio cysylltwch â'r adran Cynllunio a Rheoli Adeiladu.
Gallwch ddod o hyd i ganllawiau bywyd gwyllt cenedlaethol yma:
Nodyn Cyngor Technegol 5: Cadwraeth Natur a Chynllunio
Gwrychoedd
Crewyd gwrychoedd yn wreiddiol i gadw stoc o fewn neu allan o gaeau ac i nodi ffiniau perchnogaeth. Erbyn hyn, maen nhw'n cael eu gwerthfawrogi am eu cysylltiadau diwylliannol ac hanesyddol a'u pwysigrwydd mawr i fywyd gwyllt.
I gael gwybodaeth am fioamrywiaeth gwrychoedd ewch i'n tudalennau Partneriaeth Bioamrywiaeth Powys. Mae adran Adar y tudalennau hyn yn rhoi gwybodaeth am adar sy'n nythu mewn gwrychoedd.
Rheolaeth
Cyfrifoldeb y perchennog tir neu ddeiliad yw torri a phlygu gwrychoedd. Mae hyn yn cynnwys gwrychoedd wrth ymyl priffyrdd cyhoeddus neu hawliau tramwy cyhoeddus. Gall y Cyngor Sir dorri ochrau gwrychoedd ar hyd y briffordd er mwyn cadw mynediad, os nad yw hyn wedi'i wneud eisoes gan y perchennog tir. Fel arfer bydd hyn yn effeithio ar wrychoedd sy'n tyfu allan i'r ffordd neu os yw gwrych yn gorchuddio arwydd ffordd.
I roi gwybod am broblem gyda gwrych sy'n tyfu wrth ymyl ffordd gyhoeddus defnyddiwch ein ffurflen er mwyn rhoi gwybod am broblem.
Symud Gwrychoedd
Os ydych yn cael gwared ar wrych mae'n rhaid i chi gydymffurfio â Rheoliadau Gwrychoedd 1997. Mae'n anghyfreithlon i symud neu ddinistrio rhai gwrychoedd heb ganiatâd Cyngor Sir Powys. Os oes gennych gwestiwn am gael gwared ar wrychoedd, ebost: Planning.enforcement@powys.gov.uk. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar y rheoliadau a chadwraeth a rheoli gwrychoedd ar y gwefan canlynol:
Gwrychoedd Uchel
Gall y Cyngor Sir ymyrryd mewn anghydfodau am wrychoedd a choed ar ffiniau rhwng perchnogion tir preifat ond dim ond os yw Rheoliadau Gwrychoedd Uchel 2005 yn berthnasol. Os ydych am gyngor neu os ydych am wneud cwyn dan y rheoliadau, ebost Planning.enforcement@powys.gov.uk
I gael gwybodaeth am y rheoliadau, datrys anghydfod a gwneud cwyn ewch i GOV.UK
Ffyrdd
Gallwch gael gwybodaeth am waith rheoli'r Cyngor Sir o ymylon y ffyrdd a beth i'w wneud os oes anifail trig ar y ffordd yma.
Mae rhagor o wybodaeth am Bioamrywiaeth ac Adferiad Natur ym Mhowys ar gael ar dudalennau Bioamrywiaeth ym Mhowys. Cysylltwch â biodiversity@powys.gov.uk os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os oes gennych gwestiwn arall yn ymwneud â bywyd gwyllt ar y lleiniau ar ymyl y ffordd.
Coed
Mae coetiroedd a choed yn rhan bwysig o dirwedd Powys. Yn ogystal â choetiroedd llydanddail collddail brodorol mae yna ddarnau mawr o dir sydd wedi'u gorchuddio â choetiroedd coniffer masnachol sy'n cael eu rheoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru, cwmniau coedwigaeth preifat a pherchnogion tir.
Cyn cwympo coeden ar eiddo preifat, efallai y byddwch am ymweld â'n Gorchmynion Cadw Coed a Choed mewn Ardaloedd Cadwraeth sicrhau nad yw'r coed yn destun Gorchymyn Diogelu Coed neu mewn ardal gadwraeth.
Y cyngor sy'n gyfrifol am gynnal coed ar ei dir ei hun ac mae'n gallu cymryd camau i reoli'r coed ar hyd priffyrdd cyhoeddus lle mae yna berygl i ddefnyddwyr y ffyrdd. Os oes gennych bryder am un o goed y cyngor neu am goeden sydd ar ffordd gyhoeddus gallwch roi gwybod i ni ar dudalennau Priffyrdd. I gael gwybodaeth am goed wrth ymyl hawliau tramwy cyhoeddus ewch i dudalennau Hawliau Tramwy Cyhoeddus.
Cyngor
Cyfrifoldeb y perchennog neu ddeilydd y tir yw rheoli coed ar dir preifat. Nid oes gan y cyngor swyddog coed penodol ac felly nid ydym yn gallu darparu cyngor arbenigol am iechyd coed nac am goed peryglus. Os oes gennych bryder am goeden sydd gennych neu am goed eich cymydog (nad yw'n gyfrifoldeb y cyngor) dylech ofyn am gyngor arbenigwr coed (tyfwr coed). Dewiswch un sy'n gyfarwydd â'r gofynion cyfreithiol i amddiffyn ystlumod ac adar sy'n nythu.
Coed sydd wedi'u gwarchod
Gorchmynion Cadw Coed a Choed mewn Ardaloedd Cadwraeth
Bydd coed o fewn Ardaloedd Cadwraeth trefi a phentrefi, neu a effeithir gan Orchmynion Cadw Coed (GCC) angen caniatâd y Gwasanaethau Cynllunio cyn y gellir gwneud unrhyw waith arnynt.
A fyddech gystal â nodi nad yw Cyngor Sir Powys yn gyfrifol yn uniongyrchol am unrhyw waith sy'n effeithio ar goed a gwrychoedd syn cael ei wneud gan :
- gwmniau prif wasanaethau (trydan, telegyfathrebu, dwr, nwy)
- perchnogion tir preifat ar eu tir eu hunain (gan gynnwys wrth ymyl priffyrdd neu dudalennau Hawliau Tramwy Cyhoeddus)
- Llywodraeth Cymru e.e. prif gynlluniau ffyrdd.
Help gyda choed
Y cyngor sy'n gyfrifol am gynnal coed ar ei dir ei hun ac mae'n gallu cymryd camau i reoli'r coed ar hyd priffyrdd cyhoeddus lle mae yna berygl i ddefnyddwyr y ffyrdd. Cyfrifoldeb y perchennog neu ddeilydd y tir yw rheoli coed ar dir preifat.
- Coed ar hyd priffyrdd cyhoeddus
Os oes gennych bryder am un o goed y cyngor neu goeden ar hyd priffordd gyhoeddus, gallwch ddweud wrthym ni amdano trwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.
Os yw'r goeden wedi syrthio ar y ffordd fawr, ffoniwch 0345 6076060 ar frys i roi gwybod am y digwyddiad.
- Coed sy'n creu rhwystr ar hawl tramwy
Os bydd coeden neu gangen yn cwympo dros hawl tramwy cyhoeddus, cyfrifoldeb perchennog y goeden yw symud y gangen neu'r goeden.
Cysylltwch â ni os ydych yn gweld coeden neu gangen yn creu rhwystr ar hawl tramwy. Byddwn yn cysylltu â pherchennog y goeden a gofyn iddynt symud y rhwystr o fewn amser rhesymol. Os na fyddant yn gwneud hyn, byddwn yn symud y gangen/coeden ac yn adfer ein costau oddi wrth y perchennog.
- Coed sydd wedi'u difrodi neu goed afiachus
Nid oes gennym swyddog coed penodedig, ac felly ni allwn ddarparu cyngor arbenigol am iechyd coed neu goed peryglus.
Os oes gennych bryder am eich coeden eich hunan neu goeden eich cymydog (nad yw'n goeden y cyngor), dylech ofyn am gyngor arbenigol oddi wrth lawfeddyg coed profiadol ac arbenigol (tyfwr coed). Dewiswch un sy'n gyfarwydd gyda'r gofynion cyfreithiol i ddiogelu ystlumod ac adar sy'n nythu.
Mae tirfeddianwyr a phreswylwyr yn gyfrifol am reoli coed ar dir preifat.
Coed wrth ymyl y briffordd
Os oes gennych goed ar eich tir neu eiddo yn agos at ffordd neu balmant, eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr eu bod yn ddiogel ac nad ydynt yn berygl i eraill. Gallwch ddarganfod mwy am eich cyfrifoldebau am goed wrth ymyl y briffordd yma: www.powys.gov.uk/CoedPriffyrdd
Rhywogaethau a chynefinoedd pwysig a ddiogelir
Mae Powys yn gartref i amrywiaeth enfawr o fywyd gwyllt. Mae nifer o blanhigion, mamaliaid, adar, pysgod, pryfaid a ffyngau ym Mhowys wedi'u diogelu gan y gyfraith a/neu'n cael eu hadnabod fel bod o bwysigrwydd cenedlaethol neu leol. Mae hefyd rhai ardaloedd o dir a dwr sy'n cael eu diogelu oherwydd y bywyd gwyllt sy'n byw yna.
Os ydych angen gwybodaeth am leoliad neu ddosbarthiad rhywogaeth neu gynefin arbennig ym Mhowys, cysylltwch â'r Gwasanaeth Gwybodaeth ar Fioamrywiaeth i Bowys a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, (GGB) canolfan cofnodion biolegol lleol y sir.
Mae nifer fawr o safleoedd ym Mhowys wedi'u diogelu'n gyfreithiol, gan gynnwys:
- Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig
Mae Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) yn rhoi diogelwch statudol i'r enghreifftiau gorau o blanhigion, anifeiliaid, neu dirluniau y DG. Defnyddir y safleoedd hyn hefyd i gefnogi dynodiadau cadwraeth natur cenedlaethol a rhyngwladol eraill, megis Ardaloedd Diogelwch Arbennig neu Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Mae'r mwyafrif o SoDdGA mewn perchnogaeth breifat neu dan reolaeth breifat. Mae dros 200 SoDdGA ym Mhowys. - Ardaloedd Cadwraeth Arbennig
Mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) wedi'u dynodi dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd y Gymuned Ewropeaidd. Ardaloedd yw'r rhain sy'n cynrychioli'r ystod a'r amrywiaeth o gynefinoedd a rhywogaethau (heb fod yn adar) o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ynghyd ag Ardaloedd Diogelu Arbennig, yn ffurfio rhwydwaith Natura 2000. Mae sawl ACA ym Mhowys, gan gynnwys Afonydd Wysg a'r Wy. - Ardaloedd Diogelu Arbennig
Mae Ardaloedd Diogelu Arbennig (ADA) wedi'u dosbarthu gan Lywodraeth y DG dan Gyfarwyddeb Adar y Gymuned Ewropeaidd. Y rhain yw cynefinoedd pwysicaf adar mudol a phrin yr Undeb Ewropeaidd. Safleoedd Ramsar
Mae Safleoedd Ramsar yn cael eu dynodi dan y ddeddfwriaeth a gytunwyd yn Ramsar, Iran yn 1971. Y bwriad yn wreiddiol oedd i ddiogelu cynefinoedd adar dwr pwysig, ond erbyn hyn mae'n cynnwys pob agwedd ar gadwraeth gwlyptiroedd. Mae safleoedd Ramsar yn cydnabod fod gwlyptiroedd yn fannau arbennig o bwysig ar gyfer bioamrywiaeth, cadwraeth a lles dynol. Mae rhan fechan o safle Ramsar ar aber Afon Dyfi ym Mhowys.Parciau Cenedlaethol
Mae parciau cenedlaethol wedi diogelu a gwella tirweddau gwledig ers 1949. Maen nhw hefyd yn annog y cyhoedd i fwynhau cefn gwlad yn ogystal ag ystyried lles cymdeithasol ac economaidd y rheiny sy'n byw ynddynt. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar eu gwefan.Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol
Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNC) yw rhai o safleoedd naturiol a rhannol naturiol pwysicaf Prydain. Mae'r rhain yn cael eu rheoli i ddiogelu eu cynefinoedd ac i alluogi cynnal astudiaethau gwyddonol ar y rhywogaethau sy'n byw yma.Gwarchodfeydd Natur Lleol
Mae Gwarchodfeydd Natur Lleol yn cael eu dynodi a'u rheoli gan y cyngor i ddiogelu natur. Maen nhw'n darparu cyfleoedd am ymchwil ac addysg, ac er mwyn i bobl fwynhau natur. Daeth Parc y Llyn yn Llandrindod yn Warchodfa Natur Lleol yn 2010.Parciau Gwledig
Mae'r rhain yn cael eu rheoli gan awdurdodau lleol i greu cyfleoedd hamdden, ond mae hefyd ardaloedd o gynefinoedd rhannol naturiol ac felly mae hamdden a'r amgylchedd naturiol yn mynd law yn lllaw. Mae Parc Gwledig Craig-y-nos yn y Bannau Brycheiniog.Gellir cael gwybodaeth a chyngor ar rywogaethau a ddiogelir dan y gyfraith, AoDdGA, ACA, ADA, Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a safleoedd Ramsar oddi ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru..
Gweler hefyd y tudalennau ar Ystlumod ac Adar.
Safleoedd sy'n bwysig yn lleol
Nid yw pob ardal sy'n bwysig i fywyd gwyllt wedi'i diogelu'n gyfreithiol. Mae awdurdodau lleol a/neu ymddiriedolaethau bywyd gwyllt ar draws Cymru wedi datblygu meini prawf i ddewis safleoedd sy'n bwysig ar gyfer bioamrywiaeth leol. Unwaith y bydd safleoedd wedi'u dynodi, rydym yn rhoi gwybodaeth a chyngor i berchnogion tir i helpu gyda'r gwaith rheoli sy'n ystyried bywyd gwyllt.
Ym Mhowys, mae rhwydwaith o Safleoedd Bywyd Gwyllt wedi cael eu sefydlu gyda pherchnogion tir i ddiogelu'r cynefinoedd rhannol naturiol sy'n weddill. Mae'r Cyngor Sir hefyd yn rheoli rhwydwaith o dros gant o Warchodfeydd Natur ar Ymyl y Ffyrdd, sy'n cael eu dewis a'u rheoli i ddiogelu eu diddordeb botanegol. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y rhwydwaith Gwarchodfeydd Natur ar Ymyl y Ffyrdd ar dudalennau Partneriaeth Bioamrywiaeth Powys.
Troseddau Bywyd Gwyllt
Mae troseddau yn erbyn bywyd gwyllt yn cynnwys prynu, gwerthu, niweidio neu darfu ar anifeiliaid neu blanhigion gwyllt sy'n cael eu gwarchod gan y gyfraith a chreulondeb yn erbyn anifeiliaid nad ydynt yn rhai domestig.
Os oes gennych reswm da i feddwl y cafwyd achos o drosedd bywyd gwyllt rhowch wybod i Heddlu Dyfed Powys. Dylid rhoi gwybod am bryderon ynglyn â lles da byw domestig i Safonau Masnach.
Os ydych am roi gwybod am ddifrod sydd wedi'i achosi i safle sy'n cael ei warchod, megis Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), cysylltwch â Chyfoeth Naturiol Cymru.
