Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn
Gallwn ystyried amrywiaeth o sefyllfaoedd a bwriad y taliadau hyn yw helpu pobl mewn amgylchiadau eithriadol, ac am gyfnodau byr i ymdopi ag amgylchiadau anodd.
Pwy sy'n gallu hawlio Taliad Disgresiwn ar Gostau Tai?
Unrhyw un sydd ag angen rhagor o help gyda chostau tai ac sy'n hawlio'r canlynol:
- Budd-dal Tai neu
- Gredyd Cynhwysol gyda chostau tai tuag at gyfrifoldebau rhentu
Allwch chi ddim cael Taliad Disgresiwn at Gostau Tai (DHP) i'ch helpu i dalu Treth y Cyngor. Bydd angen i chi hawlio Gostyngiad Treth y Cyngor.
Mae'r llywodraeth wedi rhoi arian i gynghorau roi DHP I bobl y mae'r diwygiadau llesiant wedi effeithio arnynt, sy'n cynnwys:
- Y cap ar fudd-daliadau
- Tynnu'r cymhorthdal ystafell sbâr yn y sector eiddo cymdeithasol ar rent (treth ystafell wely)
- Newidiadau I gyfraddau Lwfans Tai Lleol, gan gynnwys unfannu am 4 blynedd
Efallai y bydd rhai pobl yn gymwys i gael cymorth am gyfnod hwy.
Sut gallwch chi ddefnyddi'r taliad?
Efallai y byddwch yn derbyn DHP I dalu eich costau tai, er enghraifft:
- diffyg yn y rhent
- blaendaliadau rhent neu rent o flaen llaw os oes angen i chi symud tŷ
- Help i symud tŷ os ydych yn gwneud hyn er mwyn gwella eich sefyllfa rhent
- Mewn ambell achos, taliad tuag at ôl-ddyledion rhent os ydych yn wynebu cael eich troi allan o'ch cartref
Os oes unrhyw unigolyn neu asiantaeth yn rhoi cymorth i chi ym Mhowys, mae ffurflenni ar gael ganddyn nhw hefyd.
Bydd pob achos yn cael ei asesu ar ei deilyngdod ei hun, ac mae'n rhaid i ni sicrhau y bydd unrhyw daliad yn eich helpu i symud tuag at well sefyllfa, amgylchiadau neu ganlyniadau. Felly rydym yn disgwyl i chi weithio gyda ni neu'r asiantaethau sy'n bartneriaid â ni i geisio gwella pethau i chi.
Bydd unrhyw Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn a gewch tuag at dalu'r rhent yn cael eu talu gyda'ch Budd-dal Tai naill ai'n uniongyrchol i chi neu i'ch Landlord. Budd unrhyw daliadau cymorth unigol yn cael eu talu'n uniongyrchol fel arfer, e.e. costau symud ty i'r cwmni cludiant sy'n symud eich pethau.
Sut i wneud cais
Y ffordd gyflymach i hawlio yw llenwi'r ffurflen gais ar-lein, ond os ydych chi angen help llaw, mae croeso i chi gysylltu â ni
Credyd Cynhwysol - Ydy e'n effeithio arnoch CHI? Sut mae budd-daliadau'n newid
Mae apwyntiadau wyneb yn wyneb ar gael yn ein swyddfeydd yn Aberhonddu, Llandrindod, Y Trallwng ac Ystradgynlais. I drefnu apwyntiad, galwch ni.Cysylltiadau ar gyfer:
Rhowch sylwadau am dudalen yma