Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Rhent wedi'i warchod

Os yw rhywun ar eich aelwyd yn marw

Os yw rhywun ar eich aelwyd wedi marw'n ddiweddar, gallai hynny olygu bod eich cartref bellach yn cael ei ystyried yn rhy fawr i chi. Fodd bynnag, os bydd hyn yn digwydd, ni fydd eich Budd-dal Tai yn cael ei leihau am flwyddyn ar ôl y farwolaeth.

Os oeddech chi'n gallu fforddi'ch rhent heb hawlio Budd-dal Tai yn flaenorol

Os oeddech chi'n gallu fforddio'ch rhent yn flaenorol heb hawlio Budd-dal Tai, er bod eich cartref yn cael ei ystyried yn rhy fawr i chi, byddwch yn cael cyfnod byr o ras os oes angen i chi gael help gyda'ch rhent oherwydd newid yn eich amgylchiadau. NI fydd y cyfyngiad maint yn berthnasol i chi am hyd at 13 wythnos os:

  • ydych chi'n hawlio o'r newydd am Fudd-dal Tai oherwydd newid yn eich amgylchiadau, er enghraifft os ydych wedi colli eich gwaith, a
  • gallech fforddio eich rhent pan wnaethoch chi gychwyn ar eich tenantiaeth, a
  • os nad ydych wedi hawli Budd-dal Tai yn ystod y 12 mis.

Os ydych wedi byw yn yr un cartref ers 1 Ionawr 1996

Os oeddech chi'n byw yn yr un cartref ers o leiaf 1 Ionawr 1996, ac yn derbyn Budd-dal Tai yn barhaus hyd at unrhyw ddyddiad ar ôl 1 Ebrill 2013, ni ddylai'r cyfyngiadau ar faint y cartref fod yn berthnasol i chi yn y cartref hwnnw rhwng 1 Ebrill 2013 a 3 Mawrth 2014.