Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyflwyniad i'r Cyngor ar gyfer Cynghorwyr newydd

Cyflwyniad i'r Cynghorydd i:

  • Cyflwyniad
  • Cyngor - sut rydym yn gweithio
  • Y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth
  • Bywyd fel Cynghorydd Sir - Beth i'w ddisgwyl dros yr ychydig wythnosau nesaf
  • Rolau a chyfrifoldebau Cynghorwyr a'r gefnogaeth rydym yn ei chynnig i chi yn y rôl yma
  • Canllaw i Gynghorwyr a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru [CLlLC]
  • Cydnabyddiaeth Cynghorwyr

 

Cyflwyniad

Mae gan y Cyngor 68 o gynghorwyr sy'n cynrychioli 60 o adrannau etholiadol ar hyd a lled y sir.

Rydym yn un o brif gyflogwyr Powys, ac mae gennym oddeutu 5800 o staff.  Mae'r gyllideb refeniw ar gyfer 2023-24 yn £326.6m a'r gyllideb cyfalaf yn £93.3m.   Mae manylion Cyfrifon y Cyngor ar gael .

Cryfach, Tecach, Gwyrddach - Ein Cynllun Corfforaethol yn nodi gweledigaeth y cyngor ar gyfer dyfodol Powys ac mae'n cynnwys yr amcanion lles y byddwn yn canolbwyntio arnynt i helpu i wireddu ein gweledigaeth.

 

Y Cyngor - sut rydym yn gweithio

Mae'r Cyngor yn defnyddio strwythur gwleidyddol a elwir yn Weithrediaeth Arweinydd/Cabinet. Cynghorydd wedi'i ethol gan y Cyngor yw'r Arweinydd.  Yna bydd yr Arweinydd yn penodi Cabinet o rhwng dau a naw Cynghorydd ychwanegol.

Mae'r Cyngor wedi sefydlu nifer o Bwyllgorau. Mae'r ddogfen - Council, the Cabinet and Committees - yn darparu canllaw byr i strwythur y Cyngor, ei Bwyllgorau a'u swyddogaethau.   

Mae Cyfansoddiad y Cyngor yn egluro sut y mae'r Cyngor yn gweithredu. 

Mae Tîm Rheolwr Gweithredol a'r Uwch-dîm Arwain uwch-staff sy'n cynghori'r cyngor. Hwy sy'n gyfrifol am reoli'r cyngor o ddydd i ddydd. Bydd y cyngor yn dirprwyo rhai pwerau llunio penderfyniadau i Swyddogion i sicrhau eu bod yn gallu rheoli eu rhan hwy o'r sefydliad yn effeithiol.  Mae manylion y pwerau y mae'r Cyngor, y Cabinet a'r Pwyllgorau yn eu dirprwyo i'w gweld yn y cyfansoddiad.  

 

Y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth

Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i gyflenwi gwasanaethau effeithiol, gwell ar draws y sir. Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys awdurdodau lleol eraill, y gwasanaeth iechyd, yr heddlu, sefydliadau gwirfoddol a busnesau. Mae manylion y gwaith gyda sefydliadau o'r fath i'w gweld trwy ddilyn y ddolen yma.

 

Bywyd fel Cynghorydd Sir - Beth i'w ddisgwyl dros yr ychydig wythnosau nesaf

I'ch cefnogi dros yr ychydig wythnosau cyntaf fel Cynghorydd, mae'r ddogfen uchod yn cynnig y wybodaeth ganlynol:

  • Grwpiau Gwleidyddol
  • Y Cabinet
  • Rhaglen Gynefino Datblygu Aelodau
  • Beth sy'n digwydd os yw'r cyhoedd yn gofyn i mi ddatrys problem neu os oes ganddynt gŵyn?
  • Cyrff Allanol
  • Cyfarfodydd blynyddol pwyllgorau

 

Rolau a chyfrifoldebau Cynghorwyr a'r gefnogaeth rydym yn ei chynnig i chi yn y rôl yma

Fel cynghorydd, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau ac yn cadw at y rheolau a'r rheoliadau ynghylch y rhain. Rydych yn atebol i etholaeth eich ward [hyd yn oed y rheiny na phleidleisiodd drosoch], eich grŵp gwleidydd [os yn berthnasol] a'r Cyngor Llawn.

Mae'r ddogfen - Fel Cynghorydd - eich cyfrifoldebau - yn esbonio beth yw eich rolau a'ch cyfrifoldebau. 

Mae amrediad o gymorth ar gael i gynghorwyr. 

Mae'r cyngor hefyd wedi cytuno ar y canllawiau canlynol i'ch cynorthwyo yn eich rôl:

 

Canllaw i Gynghorwyr a gynhyrchwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru [CLlLC]

Mae'r canllaw defnyddiol hwn ar gael drwy'r ddolen ganlynol Canllaw i Gynghorwyr

 

Cydnabyddiaeth Cynghorwyr

Fe sefydlodd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW). Mae'r IRPW yn cynhyrchu adroddiad bob blwyddyn sy'n manylu ar y taliadau y mae gan gynghorwyr hawl i'w derbyn.

Mae'r Cynllun Cydnabyddiaeth ar gael ar wefan y Cyngor, ynghyd â manylion lwfansau a threuliau aelodau -  Lwfansau a threuliau cynghorwyr

Mae Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar gael i bob cynghorydd dan 75 oed. Bydd angen i chi benderfynu a ydych chi'n dymuno ymuno â'r cynllun pensiwn ai peidio.