Cyflwyniad i'r Cyngor ar gyfer Cynghorwyr newydd
Cyflwyniad i'r Cynghorydd i:
- Cyflwyniad
- Cyngor - sut rydym yn gweithio
- Y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth
- Bywyd fel Cynghorydd Sir - Beth i'w ddisgwyl dros yr ychydig wythnosau nesaf
- Rolau a chyfrifoldebau Cynghorwyr a'r gefnogaeth rydym yn ei chynnig i chi yn y rôl yma
- Cydnabyddiaeth Cynghorwyr
Cyflwyniad
Mae gan y Cyngor 73 o gynghorwyr sy'n cynrychioli 73 o adrannau etholiadol ar hyd a lled y sir.
Rydym yn un o brif gyflogwyr Powys, ac mae gennym oddeutu 5800 o staff. Mae'r gyllideb refeniw ar gyfer 2019-20 yn £255,186,179 a'r gyllideb cyfalaf yn £102m. Mae manylion cyfrif y Cyngor ar gael yma.
Fis Ebrill 2018, cytunodd y Cabinet ar ei ddyheadau hirdymor ar gyfer Powys - Gweledigaeth 2025: Ein Cynllun Gwella Corfforaethol [CIP]. Manylodd y cynllun uchelgeisiol yma ar 40 o ddeilliannau rydym yn awyddus i'w gwella, er mwyn helpu i wneud gwir wahaniaeth i drigolion, cymunedau a busnesau Powys.
Er mwyn ein helpu ni i gyflawni ein Gweledigaeth, fe wnaethom ymrwymiad i ganolbwyntio ein hymdrechion ar bedwar amcan llesiant:
- Byddwn yn datblygu economi ffyniannus
- Byddwn yn ar flaen y gad wrth ddarparu iechyd a gofal effeithiol ac integredig mewn amgylchedd gwledig
- Byddwn yn cryfhau dysgu a sgiliau
Byddwn yn cynorthwyo ein trigolion a'n cymunedau
Fis Hydref 2019 cytunodd y Cyngor ar y Diweddariad ar Weledigaeth 2025 a'r Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2019.. Mae hwn yn cyflwyno perfformiad Cyngor Sir Powys yn ystod 2018-19 o'u cymharu â'r amcanion llesiant a gyhoeddwyd yn Gweledigaeth 2025.
Y Cyngor - sut rydym yn gweithio
Mae'r Cyngor yn defnyddio strwythur gwleidyddol a elwir yn Weithrediaeth Arweinydd/Cabinet. Mae manylion Aelodau Portffolio'r Cabinet ar gael da Portfolio Holder details
Mae'r Cyngor wedi sefydlu nifer o Bwyllgorau. Mae'r ddogfen - Council, the Cabinet and Committees - yn darparu canllaw byr i strwythur y Cyngor, ei Bwyllgorau a'u swyddogaethau.
Mae Cyfansoddiad y Cyngor yn egluro sut y mae'r Cyngor yn gweithredu.
Mae strwythur Rheoli'r Cyngor yn rhoi manylion y Tîm Rheolwr Gweithredol a'r Uwch-dîm Arwain. Dyma'r uwch-staff sy'n cynghori'r cyngor. Hwy sy'n gyfrifol am reoli'r cyngor o ddydd i ddydd. Bydd y cyngor yn dirprwyo rhai pwerau llunio penderfyniadau i Swyddogion i sicrhau eu bod yn gallu rheoli eu rhan hwy o'r sefydliad yn effeithiol. Mae manylion y pwerau y mae'r Cyngor, y Cabinet a'r Pwyllgorau yn eu dirprwyo i'w gweld yn y cyfansoddiad.
Y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth
Rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i gyflenwi gwasanaethau effeithiol, gwell ar draws y sir. Mae'r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth ag amrywiaeth o sefydliadau, gan gynnwys awdurdodau lleol eraill, y gwasanaeth iechyd, yr heddlu, sefydliadau gwirfoddol a busnesau. Mae manylion y gwaith gyda sefydliadau o'r fath i'w gweld trwy ddilyn y ddolen yma.
Bywyd fel Cynghorydd Sir - Beth i'w ddisgwyl dros yr ychydig wythnosau nesaf
I'ch cefnogi dros yr ychydig wythnosau cyntaf fel Cynghorydd, mae'r ddogfen uchod yn cynnig y wybodaeth ganlynol:
- Rhaglen Gynefino Datblygu Aelodau
- Dyddiadur y Cyngor
- Beth sy'n digwydd os yw'r cyhoedd yn gofyn i mi ddatrys problem neu os oes ganddynt gŵyn?
Rolau a chyfrifoldebau Cynghorwyr a'r gefnogaeth rydym yn ei chynnig i chi yn y rôl yma
Fel cynghorydd, bydd angen i chi sicrhau eich bod yn ymwybodol o'ch cyfrifoldebau ac yn cadw at y rheolau a'r rheoliadau ynghylch y rhain. Rydych yn atebol i etholaeth eich ward [hyd yn oed y rheiny na phleidleisiodd drosoch], eich grŵp gwleidydd [os yn berthnasol] a'r Cyngor Llawn.
Mae'r ddogfen - As a Councillor - your responsibilities - yn esbonio beth yw eich rolau a'ch cyfrifoldebau.
Mae amrediad o gymorth ar gael i gynghorwyr. Mae'r Members' support agreement yn esbonio'r gefnogaeth yma ac yn darparu manylion cysylltu swyddogion.
Mae'r cyngor hefyd wedi cytuno ar y canllawiau canlynol i'ch cynorthwyo yn eich rôl:
- Personal Safety Guidance for Members
- Framework for Member Mentoring
- Social Media Guide for Members
- Members' Annual Reports guidance
Cydnabyddiaeth Cynghorwyr
Fe sefydlodd Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol (IRPW). Mae'r IRPW yn cynhyrchu adroddiad bob blwyddyn sy'n manylu ar y taliadau y mae gan gynghorwyr hawl i'w derbyn.
Mae'r Cynllun Cydnabyddiaeth ar gael ar wefan y Cyngor, ynghyd â manylion lwfansau a threuliau aelodau - Lwfansau a threuliau cynghorwyr
Mae Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol ar gael i bob cynghorydd dan 75 oed. Bydd angen i chi benderfynu a ydych chi'n dymuno ymuno â'r cynllun pensiwn ai peidio.