Toglo gwelededd dewislen symudol

Treth y Cyngor: Disgownt ac eithriadau ar eiddo

Mae'n bosibl na fydd angen talu Treth y Cyngor ar eiddo lle nad oes neb yn byw yno, heb ddodrefn, gwag neu'n anaddas i fyw yno.  Mae mathau penodol o eiddo hefyd wedi'u heithrio lle maen nhw at ddiben penodol.

Gweler hefyd: Gostyngiadau a disgowntiau (pobl)

Rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith am newid yn eich amgylchiadau.  Bydd methu gwneud hynny'n gallu arwain at orfodi Cosb Treth y Cyngor arnoch.  Os ydych chi'n anghytuno â'r gosb, gallwch ddewis ei drafod â ni'n gyntaf.  Neu, gallwch apelio'n uniongyrchol i Dribiwnlys Prisiadau Cymru

Peidiwch â defnyddio'r ffurflen yma:

Ar y tudalen hwn:

Eiddo heb ei feddiannu / anghyfannedd

Eiddo nad yw'n addas byw ynddo:

Eiddo lle mae'r cyn-feddianwr:

Perchnogaeth Eiddo

Anecs neu Angorfa

Eiddo sydd wedi'u meddiannu

Mae eiddo sydd ddim ond yn darparu un math penodol o breswylfa wedi'u heithrio rhag talu Treth y Cyngor. Dim ond y mathau o eiddo sydd wedi'u rhestru isod sydd wedi'u heithrio.

 

Eiddo nad yw'n addas byw ynddo:

  • Eiddo sy'n anaddas i fyw ynddynt (Adnewyddu tŷ/fflat neu drosi ysgubor / fferm):

Bydd yr eithriad yn berthnasol i eiddo anghyfannedd am uchafswm o 12 mis. Mae'n rhaid i'r eiddo fod angen gwaith atgyweirio mawr arno er mwyn iddo ddod yn gyfannedd, neu raid i waith trosi strwythurol fod ar y gweill. Mae'n bosibl y bydd Swyddog Ymweld yn archwilio'r eiddo cyn dyfarnu eithriad.

Ar ôl yr eithriad,  mae'n bosibl y bydd angen talu premiwm treth y cyngor.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

 

  • Eiddo wedi'i ddifrodi llifogydd neu sy'n anniogel:

Os yw eich eiddo wedi'i ddifrodi neu'n anniogel, efallai y cewch chi ostyngiad yn Nhreth y Cyngor.  Byddai hynny'n digwydd trwy gynllun arbennig 'Adran 13a' y mae Cyngor Sir Powys wedi'i sefydlu lle bydd yn ystyried y sefyllfaoedd a ganlyn:

  1. Eiddo sy'n dioddef difrod tân
  2. eiddo dan ddŵr gan gynnwys difrod storm
  3. Eiddo sy'n anniogel yn sgîl nwy neu olew yn gollwng neu ymsuddiant.

Rhagor o wybodaeth am y cynllun yma a sut i wneud cais

 

  • Eiddo heb ddodrefns:

Os nad oes dodrefn yn yr eiddo, yna mae'n bosibl y bydd yn cael ei eithrio o Dreth y Cyngor am hyd at 6 mis.

Ar ôl i'r eithriad yma ddod i ben, bydd yr eiddo'n atebol am ffi llawn Treth y Cyngor. Os yw'r eiddo'n parhau i fod â neb yn byw ynddo, a heb ei ddodrefnu am gyfnod parhaus o un flwyddyn,  mae'n bosibl y bydd angen talu  premiwm treth y cyngor. may apply.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

 

Eiddo lle mae'r cyn-feddianwr:

  • Wedi gadael i dderbyn gofal neu'n byw yn yr ysbyty:

Os yw tenant eiddo yn byw mewn ysbyty, cartref gofal preswyl eu gartref nyrsio yn barhaol ac ni fydd yn dychwelyd i'r eiddo yna fe allai'r eiddo fod wedi'i eithrio rhag talu Treth y Cyngor.

Pan fydd rhywun wedi mynd i fyw gyda rhywun arall yn barhaol er mwyn derbyn gofal, gan adael ei eiddo heb feddiant, yna gallai'r eiddo hwnnw fod wedi'i eithrio.

Rhaid i'r unigolyn fod yn derbyn gofal yn sgil henaint, anabledd, salwch, dibyniaeth nawr neu yn y gorffennol ar alcohol neu gyffuriau, neu salwch meddwl nawr neu yn y gorffennol. 

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

 

  • Wedi gadael i ddarparu gofal:

Os ydych wedi gadael eich eiddo yn barhaol er mwyn darparu gofal i rywun, gan adael eich eiddo heb feddiant, bydd eich eiddo'n cael ei eithrio.

Rhaid i chi fod yn darparu gofal i rywun sydd angen gofal oherwydd henaint, anabledd, salwch, dibyniaeth nawr neu yn y gorffennol ar alcohol neu gyffuriau, neu anhwylder meddwl nawr neu yn y gorffenn.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

Mae'n bosibl y byddwch hefyd wedi'ch  eithrio rhag talu Treth y Cyngor yn yr eiddo lle rydych chi'n darparu gofal.

 

  • Wedi Marw:

Pan fydd oedolyn wedi marw, mae angen i ni wybod pwy sy'n gyfrifol am dalu eu Treth y Cyngor a manylion eraill, er enghraifft, pan fydd y profiant wedi'i gyflwyno. Efallai y bydd yr eiddo'n eithriedig os nad oes preswylwyr yn byw yno hyd at chwe mis ar ôl rhoi profiant y dyddiad, a rhaid i ni wybod pan roddir y profiant. Mae hyn oll yn helpu i sicrhau nad ydych yn talu ond y swm cywir o dreth y Cyngor a dim mwy.

Dweud wrth yr adran Treth y Cyngor pan fydd oedolyn wedi marw.

 

  • Yn y carchar neu ddalfa gyfreithlon arall:

Os bydd eiddo heb feddiant oherwydd bod y meddiannwr yn y ddalfa, mae wedi'i eithrio rhag Treth y Cyngor. Mae hyn yn berthnasol i unrhyw un sy'n cael ei gadw trwy orchymyn llys, boed hynny mewn carchar, ysbyty, neu unrhyw le arall.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

 

  • Wedi gadael i fynd addysg amser llawn:

Os ydych wedi gadael eich eiddo'n wag pan fyddwch yn byw rhywle arall fel myfyriwr mewn sefydliad addysgol, bydd eich eiddo wedi'i eithrio rhag Treth y Cyngor. Mae'n rhaid i chi sicrhau eich bod wedi cadw'r hawl i ddychwelyd i'ch eiddo.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

Rhagor o wybodaeth am Dreth y Cyngor i fyfyrwyr, prentisiaid a hyfforddeion

 

Perchnogaeth yr eiddo

 

  • Eiddo gwag sy'n perthyn i elusen:

Os yw elusen yn berchen ar eiddo, a'r eiddo hwnnw wedi'i ddefnyddio at ddibenion yr elusen cyn dod yn wag, mae'n bosibl y bydd wedi'i eithrio rhag talu Treth y Cyngor.  Bydd eithriad yn gymwys am hyd at 6 mis o'r dyddiad y daeth yn wag. Mae'r eithriad yma'n berthnasol boed yr eiddo wedi'i ddodrefnu neu beidio. 

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

 

  • Mae'r gyfraith yn gwahardd meddiannaeth:

Os yw'r gyfraith yn gwahardd meddiannaeth yr eiddo, bydd wedi'i eithrio rhag Treth y Cyngor. Mae hyn yn cynnwys eiddo nad yw'n ffit i bobl fyw ynddynt, cabanau gwyliau a charafanau yn ystod y cyfnod pan nad oes modd eu meddiannu.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

 

  • Mae'r eiddo'n cael gadw ar gyfer gweinidog crefyddol:

Mae eiddo sy'n aros i weinidog crefyddol a fydd yn cyflawni ei (d)dyletswyddau yn rhinwedd ei swydd yn yr eiddo hwnnw wedi'u heithrio. 

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

 

  • Eiddo sydd wedi cael ei ailfeddiannu:

Pan fydd banc/cymdeithas adeiladu wedi'i adfeddiannu eiddo, a'r eiddo hwnnw yn dal i fod yn gyfreithiol ym mherchnogaeth y meddianwr diwethaf, mae wedi'i eithrio. 

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

 

  • Eiddo sy'n cael ei ddal gan ymddiriedolwr methdalwr:

Mae eiddo gwag sy'n gyfrifoldeb ymddiriedolwr mewn achos methdalu wedi eithrio, boed yr eiddo wedi'i ddodrefnu neu beidio.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

 

  • Llety Lluoedd Arfog:

Mae eiddo sydd ym mherchnogaeth y Goron ac yn cael ei defnyddio fel Llety i aelod o'r Lluoedd Arfog wedi'i eithrio, boed yr eiddo hwnnw wedi'i feddiannu neu  beidio.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

 

 

Anecs neu Angorfa

  • Anecs heb feddiant i eiddo mewn meddiant: 

Os nad oes modd gosod anecs ar wahân i'r eiddo sydd wedi'i feddiannu oherwydd y byddai'n mynd yn groes i'r rheoliadau cynllunio, mae'n bosibl y bydd wedi'i eithrio rhag Treth y Cyngor. 

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

 

  • Llain garafanau neu angorfeydd cychod heb feddiant:

Mae llain carafán neu angorfa cychod nad oes carafán neu gwch yn ei meddiannu wedi'i heithrio rhag Treth y Cyngor. 

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

 

 

Eiddo sydd wedi'u meddiannu

  • Neuaddau Preswyl

Mae neuaddau preswyl i fyfyrwyr wedi'u heithrio cyn belled bod y neuadd ym mherchnogaeth neu dan reolaeth sefydliad adddysgol.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

 

  • Eiddo â dim ind myfyrwyr neu nyrsys dan hyfforddiant yn byw ynddo

Os mai dim ond myfyriwr / myfyrwyr amser llawn sy'n byw yn yr eiddo, bydd wedi'i eithrio.

Diffiniad o fyfyriwr:

  • Rhywun sydd wedi ymgofrestru ar gwrs addysg amser llawn. Rhaid i'r cwrs bara am o leiaf un flwyddyn a rhaid i'r myfyriwr fynychu'r cwrs am o leiaf 24 wythnos y flwyddyn ac astudio am o leiaf 21 awr yr wythnos. 
  • Rhywun dan 20 oed ar gwrs sy'n para am o leiaf 3 mis calendr ac sy'n astudio am o leiaf 12 awr yr wythnos. Rhaid i'r cwrs beidio â bod yn gwrs addysg uwch. Nid yw dosbarthiadau nos a chyrsiau gohebol yn gymwys.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

 

 

  • Cartrefii'r Lluoedd Arfog

Mae eiddo sy'n perthyn i'r Goron ac yn cael ei ddefnyddio fel cartref i aelodau o'r Lluoedd Arfog wedi'i eithrio rhag Treth y Cyngor p'un a oes rhywun yn byw ynddynt ai peidio.

Mae eiddo sydd ag aelodau a dibynyddion lluoedd arfog sy'n ymweld wedi'i eithrio rhag Treth y Cyngor.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

 

Eiddo sydd wedi'u meddiannu gan rywun dan 18 oed yn unig

Mae eiddo ag unigolyn / â pobl dan 18 yn unig yn byw ynddo wedi'i eithrio.
Mae enw'r landlord neu'r perchennog ar y bil a bydd yr eithriad yn ymddangos ar eu bil nhw.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

 

Eiddo â dim ond unigolyn / unigolion a nam meddyliol difrifol yn byw ynddo

Mae eiddo â dim ond unigolyn / pobl â nam meddyliol difrifol yn byw ynddo wedi'i eithrio rhag Treth y Cyngor.

Amhariad difrifol ar ddeallusrwydd a'r gweithredu cymdeithasol (beth bynnag sydd wedi achosi hyn) sy'n ymddangos fel petai'n barhaol yw hyn.

Rhaid i ymarferydd meddygol dystio i hyn, a rhaid i'r unigolyn sy'n ei dderbyn hefyd fod â hawl i un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Budd-dal Analluogrwydd 
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Anabled Difrifol
  • Cydran Gofal y Lwfans Byw i'r Anabl sy'n daladwy ar y gyfradd uwch na ganolig dan y Ddeddf
  • Cynnydd yng nghyfradd y Pensiwn Anabledd 
  • Lwfans Gweithio i'r Anabl
  • Atodiad Anghyflogadwyedd 
  • Lwfans Gweini Cyson dan Gynllun Anafiadau Personol (Sifiliaid) 1983 neu dan erthygl 14 Orchymyn Pensiwn Gwasanaeth (Anabledd a Marwolaeth) y Llynged y Fyddin neu'r Llu Awyr
  • Lwfans Anghyflogadwyedd dan yr uchod (8)
  • Cymhorthdal Incwm lle mae'r swm perthnasol yn cynnwys premiwm anabledd

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

 

Eiddo gydag unigolyn/pobl sydd a braint neu imiwnedd dipolmyddol

Mae eiddo â dim ond rhywun sydd â braint diplomyddol neu imiwnedd yn byw ynddo wedi'i eithrio rhag Treth y Cyngor. 

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

 

Eiddo mewn meddiant sy'n anecs ar wahan (sef as anecs nain a thaid)

Mae anecs nain a thaid, neu uned debyg sy'n gartref i aelodau hyn neu anabl o'r teulu sy'n byw ym mhrif ran yr eiddo wedi'u heithrio rhag talu Treth y Cyngor.

Mae dibynnydd o'r fath yn rhywun sydd:

  • yn 65 neu'n hyn, neu
  • â nam difrifol ar y meddwl, neu
  • yn sylweddol ac yn barhaod anabl (boed hynny trwy salwch, anafa, anffurfiad cynenedigol neu fel arall)

Mae aelod o'r teulu yn golygu:  cymar, rhiant, nain neu daid, plentyn, llysblentyn, wyr neu wyres, brawd, chwaer, ewythr, modryb, nai neu nith, neu riant y cyfrys berthynas, gan gynnwys  perthynas trwy briodas neu hanner gwaed.

Gwneud cais i gael eiddo wedi'i eithrio o Dreth y Cyngor yma

 

Rhai sy'n Gadael Gofal

Gall eithriad Treth y Cyngor ddigwydd pan fydd preswylfa yng Nghymru ym meddiant un neu ragor o 'rai sy'n gadael gofal' a lle bydd pob preswylydd naill ai yn 'rai sy'n gofal', yn 'unigolion perthnasol', neu'n 'unigolion â nam meddyliol difrifol'.

Mae "rhai sy'n gadael gofal" yn golygu rhai sydd -

  • yn 24 neu'n iau; ac
  • yn unigolion ifanc categori 3 yn ôl diffiniad adran 104 Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014(2) 2014 

Mae "unigolion perthnasol" yn golygu yr ystyr a roddir ym mharagraff 2(a) Dosbarth N;

  • rhai sydd â buddiant rhydd-ddaliad neu les-ddaliad mewn unrhyw ran o'r breswylfa neu'r breswylfa gyfan, neu mewn trwydded i feddiannu unrhyw ran o'r breswylfa neu'r breswylfa gyfan

Mae "unigolion â nam meddyliol difrifol" yn golygu yr ystyr a roddir ym mharagraff 2 Atodlen 1 y Ddeddf;"

(1)   Rhaid i unigolion gael eu diystyru at ddibenion gostyngiad ar ddiwrnod penodol os —

  • ar y diwrnod dan sylw mae ganddynt nam meddyliol difrifol;
  • o ran unrhyw gyfnod sy'n cynnwys y diwrnod y nodir mewn tystysgrif gan ymarferydd meddygol cofrestredig ei fod, neu'n debygol o fod yn dioddef nam meddyliol difrifol; ac
  • o ran y diwrnod y mae'n cyflawni'r cyfryw amodau a ragnodwyd trwy orchymyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

(2)   At ddibenion y paragraff yma, mae gan unigolion nam meddyliol difrifol os oes ganddynt nam difrifol ar eu deallusrwydd a'u gweithredu cymdeithasol (beth bynnag sy'n achosi hyn) sy'n ymddangos fel pe bai'n barhaol.

(3)   Gall yr Ysgrifennydd Gwladol, trwy orchymyn, ddisodli'r diffiniad yn is-baragraff (2) sydd am y tro yn effeithiol at ddibenion y paragraff yma.

Gwneud cais am eithriad rhai sy'n gadael gofal