Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Treth y Cyngor: Help i bobl ag anabledd neu namau

Mae'n bosibl na fydd yn rhaid i chi dalu Treth y Cyngor yn llawn os oes anabledd arnoch chi neu rywun arall (o unrhyw oed) yn eich cartref. Mae'n bosibl na fydd yn rhaid i oedolion â nam difrifol ar eu meddwl dalu Treth y Cyngor.

Anabledd

Rhywun sydd yn sylweddol ac yn barhaol anabl yw rhywun anabl, boed hynny yn sgil salwch, anaf, nam cynhenid neu fel arall. Er mwyn bod yn gymwys i gael gostyngiad anabledd, rhaid i chi fod yn byw yn yr eiddo ond does dim rhaid i chi fod dros 18 oed..

Os ydych yn gymwys i gael help dan y cynllun yma, bydd eich bil Treth y Cyngor yn gostwng o un band eiddo.

Er enghraifft, os yw eich eiddo yn Band D, bydd eich bil treth yn cael ei seilio ar Band C. Os yw'r eiddo yn Band A, byddwch yn cael gostyngiad o nawfed rhan o dâl Band D.

Os yw eich eidddo eisoes wedi'i osod mewn band is, bydd hyn yn cael ei ddangos ar eich bil.

Mae'n bosibl y bydd angen i Swyddog Ymweld ddod i archwilio'r eiddo cyn gallu rhoi gostyngiad i chi.

Er mwyn bod yn gymwys, rhaid bod â/ag:

  • Ystafell ac eithrio ystafell ymolchi neu gegin sy'n cael ei ddefnyddio at ddibenion diwallu anghenion rhywun anabl.

Does dim rhaid i'r ystafell fod wedi'i hadeiladu'n na'i hychwanegu'n arbennig, ond ni fydd eich cartref yn gymwys i dderbyn gostyngiad oni bai fod yna newid o 'hanfodol neu o bwysigrwydd mawr' wedi digwydd.

Mae'n bosibl na fydd cyfnewid ystafelloedd - e.e. ystafell wely ar y llawr gwaelod yn hytrach na'r llawr cyntaf - yn golygu bod eich cartref yn gymwys ar gyfer gostyngiad.

  • Ystafell ymolchi neu gegin ychwanegol sy'n cael ei defnyddio ac sy'n ofynnol er mwyn diwallu anghenion rhywun anabl;

Does dim rhaid i'r ystafell fod wedi'i hadeiladu'n na'i hychwanegu'n arbennig, ond ni fydd eich cartref yn gymwys i dderbyn gostyngiad oni bai fod yna newid 'hanfodol neu o bwysigrwydd mawr' wedi digwydd.

Mae'n bosibl na fydd cyfnewid ystafelloedd - e.e. ystafell wely ar y llawr gwaelod yn hytrach na'r llawr cyntaf - yn golygu bod eich cartref yn gymwys ar gyfer gostyngiad.

  • Digon o ofod llawr er mwyn gallu defnyddio cadair olwyn sy'n ofynnol i ddiwallu anghenion rhywun anabl.

 

Amhariad meddwl difrifol 

Y diffiniad o hwn yw 'nam difrifol ar ddeallusrwydd a gweithredu cymdeithasol (beth bynnag oedd yr achos) sy'n ymddangos i fod yn barhaol'.  Rhaid i ymarferydd meddygol dystio i hyn.  Rhaid i'r unigolyn hefyd fod â hawl i un o'r budd-daliadau canlynol:

  • Budd-dal Analluogrwydd
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Anabledd Difrifol
  • Lwfans Byw i'r Anabl (elfen ofal cyfradd uwch neu ganolig)
  • Cynnydd yng nghyfradd y pensiwn anabledd (lle mae angen gweini cyson)
  • Lwfans Gweithio i'r Anabl
  • Cymhorthdal Incwm (sy'n cynnwys premiwm anabledd)
  • Lwfans neu dâl atodol Cyflogaeth
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Cyfradd safonol neu uwch elfen bywyd beunyddiol y taliad annibynniaeth personol.
  • Taliad Annibynniaeth y Lluoedd Arfog
  • Credyd Cynhwysol (mewn amgylchiadau lle nad oes gan rywun fawr o allu i weithio a/neu weithgareddau'n ymwneud â gwaith).

 

Ffurflen Ymholiad

Gofyn am ostyngiad yn Nhreth y Cyngor ar sail anabledd Help i bobl ag anabledd neu namau

Gwneud cais am ostyngiad os oes gennych anfantais meddyliol difrifol neu os oes gennych rywun sy'n byw gyda chi sydd ag anfantais meddyliol difrifol Citizen Access Revenues​​​