Toglo gwelededd dewislen symudol

Powys Ddigidol

Fel rhan o'n gweledigaeth: "Croesawu technolegau newydd i wella profiad ein cwsmeriaid."

 

Mae'r ffordd rydym yn gweithio ac yn byw heddiw'n newid yn gyflym.  Mae technolegau digidol yn cael effaith sylweddol ar y ffordd byddwn yn:

Image of two work colleagues looking at a network server

  • cysylltu â'n gilydd
  • derbyn gwybodaeth
  • cael gafael ar amrywiaeth o wasanaethau

Ochr yn ochr â'r dulliau mwy traddodiadol o gysylltu â'r cyngor, rydym yn buddsoddi mewn dulliau technegol i roi mwy o ddewis i chi ar sut, pryd ac ym mha ffordd y gallwch gysylltu â ni.

Rydym hefyd yn buddsoddi mewn systemau i helpu ein staff weithio'n fwy effeithlon.

Gyda Strategaeth Ddigidol Powys byddwn yn dechrau ar brosiectau uchelgeisiol i sicrhau fod Powys yn sir y gallwch gysylltu, cyfathrebu a derbyn y gwasanaethau sydd eu hangen yn gyflym ac yn hwylus.

Datblygwyd pum ffrwd waith i drawsnewid ein cynnig digidol.  Fel trigolion, mae'n bosibl y bydd y ddau gyntaf o ddiddordeb i chi.  Cliciwch ar y tabiau isod i wybod mwy am y ffrydiau gwaith hyn:

  1. Gwasanaethau digidol sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf - sicrhau fod ein prosesau'n gweithio o gwmpas eich anghenion chi
  2. Llefydd digidol - creu gwasanaethau digidol er mwyn cysylltu a helpu busnesau a chymunedau
  3. Rhagoriaeth Gwybodaeth - defnyddio offer digidol i integreiddio, rhannu a deall data er mwyn gwneud penderfyniadau da
  4. Gweithlu Digidol - datblygu sgiliau digidol ein gweithlu
  5. Seilwaith a systemau digidol - sicrhau seilwaith addas a chadarn i staff Cyngor Sir Powys

 

Rhoi gwybod i chi
Rydym eisiau i chi fod yn ymwybodol o bopeth rydym yn ei wneud ar draws y ffrydiau gwaith eraill hefyd.  Mae'r rhain yr un mor bwysig ac fe wnawn ein gorau glas i sicrhau sefydliad sydd mor effeithlon â phosibl sy'n defnyddio offer a thechnolegau digidol i helpu ein staff a chyflymu prosesau cyffredin.  Fe wnawn hefyd gadw unrhyw ddata y rhannwch â ni'n ddiogel a sicrhau fod ein systemau ni'n gadarn.

Darllenwch ein Strategaeth Ddigidol - mae'n rhyngweithiol!

Darllen ein Strategaeth Ddigidol yn llawn yma

Gwasanaethau digidol sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf

Sicrhau fod ein prosesau'n gweithio o gwmpas eich anghenion chi

Llefydd Digidol

Mae cymunedau'n croesawu technolegau digidol ac rydym yn awyddus i gefnogi'r daith hon lle'n bosibl.

Rhagoriaeth Gwybodaeth

Defnyddio offer a thechnolegau digidol i'n helpu ni wneud penderfyniadau da, yn seiliedig ar y wybodaeth a'r data sydd ar gael i bennu adnoddau lle mae eu hangen fwyaf.