Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Strategaeth Ddigidol Powys: Gwasanaethau digidol sy'n rhoi'r cwsmer yn gyntaf

Llun o ddau gydweithiwr yn edrych ar weinydd rhwydwaith

 

Ein bwriad yw creu a gwella'r ffordd rydych chi fel trigolion yn gallu cysylltu â'r cyngor, fel ei fod mor gyflym a hwylus â phosibl i gael y gwasanaethau angenrheidiol.

 

Accessing services from home
Beth ry'n ni wedi'i wneud:

Ym mis Rhagfyr 2018, symudodd gwefan Powys yn llwyr i blatfform gwe newydd sy'n cynnig profiad hwylus, symudol ac ymatebol ar-lein.

Rydym wedi creu tair tudalen benodol i'ch helpu chi gyrraedd y gwasanaethau angenrheidiol yn gyflym ac yn hawdd, sef:

  • Rhoi gwybod amdano, Yn y dudalen hon, gallwch wneud pethau megis gwneud cais am fathodyn glas neu adnewyddu bathodyn, gofyn am help gan wasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, sef CYMORTH neu gael trwydded i gerbyd masnachol neu drelar.
  • Cyflwyno cais, Yn y dudalen hon, gallwch roi gwybod am broblem megis golau stryd ddim yn gweithio, baw cŵn, draen wedi blocio neu gymydog swnllyd.
  • Talu, Yn y dudalen hon, gallwch dalu am drwydded parcio, talu treth y cyngor neu'r rhent tŷ cyngor a rhoi arian ar gyfrif cinio ysgol eich plentyn.

Rydym hefyd wedi sefydlu gwasanaeth Fy Nghyfrif.  Pan fydd yn barod i weithio, byddwch yn gallu gwneud nifer o bethau gyda'r cyngor mewn un lle a dilyn hynt a helynt a statws unrhyw geisiadau rydych chi wedi'u gwneud.  Gyda dros 46,000 o gwsmeriaid wedi cofrestru a gallu cynnig gwell gwasanaeth, mae lefel boddhad ein cwsmeriaid wedi codi o 68% i 80% yn ystod 2019.  Byddwn yn ychwanegu mwy o opsiynau i roi gwybod neu i ofyn am wasanaethau ar bortffolio Fy Nghyfrif, gan gynnwys y gallu i roi gwybod am broblemau ar bontydd, ffyrdd, llwybrau troed a draenio.  Hefyd, bydd trigolion a fanteisiodd ar y gwasanaeth casglu gwastraff o'r ardd yn gallu talu ar-lein bob blwyddyn cyn i'r gwasanaeth ailgychwyn.  Beth am greu cyfrif heddiw?

 

Atebion digidol sy'n canolbwyntio ar y cwsmer
Beth ydyn ni'n mynd i'w wneud?

  • Dylunio ein prosesau a rhyngweithiadau'n unol ag anghenion cwsmeriaid
  • Gweithio i sicrhau fod holl wasanaethau'r cyngor ar gael ar-lein
  • Recriwtio hyrwyddwyr digidol i gefnogi ein cwsmeriaid
  • Cynyddu nifer ac ansawdd gwasanaethau digidol
  • Datblygu atebion digidol i hyrwyddo byw'n annibynnol
  • Darparu cymorth i gwsmeriaid 24 awr y dydd