Hysbysiad: Mae manylion llawn system archebu newydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi newydd a thaliadau am wastraff DIY ar gael ar wefan y cyngor.
Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer 'Fy Nghyfrif' ar wefan Powys ac wedi diweddaru eich proffil gyda'ch enw llawn, eich cyfeiriad a'ch cyfeirnod Treth y Cyngor, byddwch nawr yn gallu gweld gwybodaeth lawn am eich cyfrif Treth y Cyngor ar-lein, gan gynnwys:
Crynodeb o'r Cyfrif
Darllenwch a lawrlwythwch eich bil treth y cyngor am unrhyw flwyddyn
Swm y taliad nesaf a'r dyddiad y mae'n ddyledus
Dull o dalu
Yr holl daliadau y gwnaethoch mewn unrhyw flwyddyn
Manylion o'r ffioedd yn y bil
Eich cynllun rhandaliadau
Darllen a lawrlwytho Rhybuddion Adennill
Os yw'r cyfrif mewn credyd - hawlio ad-daliad
Opsiwn ar gyfer bilio di-bapur
Os oes gennych 'Fy Nghyfrif' yn barod, ychwanegwch eich cyfeirnod Treth y Cyngor ac yna atebwch 'Ie' i filio di-bapur.
Os ydych wedi ychwanegu eich cyfeirnod Treth y Cyngor o'r blaen, bydd dal angen i chi fynd i mewn i'ch 'Fy Nghyfrif' a chliciwch yr opsiwn 'Mynd yn Ddi-bapur'.
Pob bil a hysbysiad treth y cyngor ar gyfer unrhyw flwyddyn
Gwybodaeth a dogfennau ar gyfrif budd-dâl tai / gostyngiad yn nhreth y cyngor.
Os oes gennych fwy nag un eiddo, gallwch ychwanegu rhagor o gyfeirnodau treth y cyngor i'ch Fy Nghyfrif.