Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Gweld fy nghyfrif Treth y Cyngor

Person using laptop for Council Tax
Darllenwch a lawrlwythwch eich Bil Treth y Cyngor ar-lein a mwy!

Cofrestrwch ar gyfer bilio di-bapur Fy nghyfrif

Os ydych chi wedi cofrestru ar gyfer 'Fy Nghyfrif' ar wefan Powys ac wedi diweddaru eich proffil gyda'ch enw llawn, eich cyfeiriad a'ch cyfeirnod Treth y Cyngor, byddwch nawr yn gallu gweld gwybodaeth lawn am eich cyfrif Treth y Cyngor ar-lein, gan gynnwys:

  • Crynodeb o'r Cyfrif
  • Darllenwch a lawrlwythwch eich bil treth y cyngor am unrhyw flwyddyn
  • Swm y taliad nesaf a'r dyddiad y mae'n ddyledus
  • Dull o dalu
  • Yr holl daliadau y gwnaethoch mewn unrhyw flwyddyn
  • Manylion o'r ffioedd yn y bil
  • Eich cynllun rhandaliadau
  • Darllen a lawrlwytho Rhybuddion Adennill
  • Os yw'r cyfrif mewn credyd - hawlio ad-daliad
  • Opsiwn ar gyfer bilio di-bapur
    • Os oes gennych 'Fy Nghyfrif' yn barod, ychwanegwch eich cyfeirnod Treth y Cyngor ac yna atebwch 'Ie' i filio di-bapur.
    • Os ydych wedi ychwanegu eich cyfeirnod Treth y Cyngor o'r blaen, bydd dal angen i chi fynd i mewn i'ch 'Fy Nghyfrif' a chliciwch yr opsiwn 'Mynd yn Ddi-bapur'.
  • Pob bil a hysbysiad treth y cyngor ar gyfer unrhyw flwyddyn
  • Gwybodaeth a dogfennau ar gyfrif budd-dâl tai / gostyngiad yn nhreth y cyngor.

Os oes gennych fwy nag un eiddo, gallwch ychwanegu rhagor o gyfeirnodau treth y cyngor i'ch Fy Nghyfrif.

Mwy o wybodaeth a help i gofrestru

 

Cofrestru ar gyfer Fy Nghyfrif nawr

Oes gennych chi gyfrif ar wefan yn barod?  Mewngofnodwch i Fy Nghyfrif yma