Bioamrywiaeth ym Mhowys
Mae tirwedd a bywyd gwyllt yn rhan o ecosystem sy'n dod â dwr ffres, bwyd a thanwydd i ni yn ogstal ag incwm o dwristiaeth a chyfleoedd am hamdden ac addysg. Adwaenir y gwasanaethau a ddarperir gan natur fel gwasanaethau ecosystem ac mae ecosystemau cydnerth iach yn dibynnu ar fioamrywiaeth.
Rôl y Cyngor mewn cadwraeth natur
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn rhoi dyletswydd ar awdurdodau cyhoeddus 'i geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth', a thrwy hynny 'hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau' wrth wneud eu swyddogaethau.
Mae'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol 'cynnal a gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy'n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol ynghyd a'r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd.
Fel awdurdod lleol mae ein gweithgareddau'n cael effaith uniongyrchol ar rywogaethau a chynefinoedd, megis rheoli tir sydd ym mherchnogaeth y cyhoedd, cynllunio ar gyfer tai lleol a chynnal a chadw'r rhwydwaith ffyrdd. Felly mae gennym rôl bwysig yn y gwaith o gynnal bioamrywiaeth.
Yn ogystal â gwella'r ffordd rydym yn rheoli'r gwaith sy'n effeithio ar rywogaethau a chynefinoedd yn barhaus, rydym hefyd yn cymryd rhan mewn prosiectau partneriaeth. Mae hyn yn cynnwys y rheiny sydd wedi'u llunio i gyflawni targedau yng Nghynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol Powys a thrwy gefnogi prosiectau cymunedol i wella'r amgylchedd ar gyfer pobl Powys. Bydd prosiectau yn y dyfodol yn anelu at gefnogi Cynllun Gweithredu newydd Adfer Natur Powys a Chynllun Llesiant Powys pan y'i gyhoeddir.

Beth yw bioamrywiaeth?

Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol

Wythnos Natur Cymru
