Taro heibio / Wyneb yn Wyneb
Gwasanaethau wyneb yn wyneb y cyngor ym Mhowys
Os oes angen i chi siarad â ni wyneb yn wyneb, lleoliadau Llyfrgell+ yw'r prif leoedd i gael mynediad wyneb-yn-wyneb i wasanaethau'r cyngor ledled Powys.
Mae ein cyfleusterau Llyfrgell+ yn cynnig ffordd groesawgar, lleol o gael help gydag ystod eang o wasanaethau'r cyngor, ochr yn ochr â gwasanaethau llyfrgell traddodiadol. Gall staff y llyfrgell eich cefnogi gyda phethau fel taliadau ac ymholiadau cyffredinol, i gyd o un lleoliad cyfleus.
Defnyddiwch eich Llyfrgell+ agosaf lle bynnag y bo modd
- Llyfrygell Aberhonddu+ (yn gallu prosesu pasys bws)
- Llyfrgell Llanfair-ym-Muallt+
- Llyfrgell Crughywel+ (yn gallu prosesu pasys bws)
- Llyfrgell Y Gelli Gandryll+
- Llyfrgell Tref-y-clawdd+
- Llyfrgell Llandrindod+ (yn gallu prosesu pasys bws)
- Llyfrgell Llanidloes+ (yn gallu prosesu pasys bws)
- Llyfrgell Llanfyllin+
- Llyfrgell Machynlleth+ (yn gallu prosesu pasys bws)
- Llyfrgell Y Drenewydd+ (yn gallu prosesu pasys bws)
- Llyfrgell Llanandras+
- Llyfrgell Rhayadr Gwy+
- Llyfrgell Y Trallwng+ (yn gallu prosesu pasys bws)
- Llyfrgell Ystradgynlais+ (yn gallu prosesu pasys bws)
Mae pwyntiau Llyfrgell+ ar gael mewn trefi ledled y sir ac nid oes angen apwyntiad ar gyfer ymholiadau cyffredinol.
Ymweld ag un o swyddfeydd y cyngor
Os oes angen i chi ymweld ag un o swyddfeydd y cyngor, rhaid i chi gael apwyntiad wedi'i drefnu ymlaen llaw cyn mynychu.
Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod y staff cywir ar gael i'ch helpu ac yn cadw amseroedd aros i'r isaf posibl.
Peidiwch â theithio i swyddfa'r cyngor heb apwyntiad, oherwydd efallai na fydd hi'n bosibl i chi weld unrhyw un.
Ddim yn siŵr ble i fynd?
Os nad ydych yn siŵr pa bwynt gwasanaeth sy'n iawn i chi, dechreuwch gyda'ch Llyfrgell+ agosaf neu cysylltwch â ni cyn teithio.
