Llinell Ofal Powys
Mae Llinell Ofal Powys yn darparu gwasanaeth 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, gan roi heddwch meddwl wrth gyffwrdd botwm. Byddwch yn cael eich cysylltu'n awtomatig â chanolfan reoli 24 awr. Bydd eich enw a'ch cyfeiriad ynghyd â'r manylion cysylltiadau y byddwch wedi'u rhoi i ni yn ymddangos ar y sgrîn er mwyn i'n tîm gysylltu â chi.