Toglo gwelededd dewislen symudol

Llwybrau ac Amserlenni Bysiau Ysgol

Image of children getting into a minibus

Er bod modd gweld y llwybrau a'r amserlenni fel 'gwestai', os byddwch yn mewngofnodi i'ch Cyfrif Fy Mhowys (gallwch greu un, os oes angen) byddwch yn gallu arbed llwybrau ac amserlenni i'w gweld eto dro arall.

Sut i ddefnyddio'r llwybrau a'r amserlenni:

  1. Ar ôl i chi gyrraedd tudalen Llwybrau ac Amserlenni Bysiau Ysgol mae angen i chi nodi'r 'cod â llaw' a geir ar docyn bws y myfyriwr (dim ond hyd at y pum rhif cyntaf y bydd angen i chi ei nodi), a dewis 'dangos llwybrau.
  2. Nesaf mae gennych yr opsiwn i ddewis y llwybr cywir a dewis naill ai i weld map y llwybr a'r amserlen 'I'r ysgol', neu'r llwybr a'r amserlen 'O'r ysgol'. Os ydych yn edrych ar fap y llwybr yn ystod yr amseroedd teithio arfaethedig, byddwch yn gallu gweld lleoliad bras y bws ar y llwybr.
  3. Os ydych wedi mewngofnodi i'ch Cyfrif Fy Mhowys, mae gennych nawr yr opsiwn o ychwanegu'r llwybr hwn a'r amserlen hon at eich rhestr 'llwybrau wedi'u harbed'. Cofiwch sgrolio i lawr a chlicio ar 'Arbed Llwybrau a Dewisiadau Rhybuddion'. Gallwch arbed hyd at bum llwybr.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu