Claddu ac Amlosgi
Rydym yn gyfrifol am archebion ar gyfer angladdau, cadw cofnodion beddi a chladdu cywir, prosesu ceisiadau am gofebion a chyflwyno gweithrediadau ar gyfer hawliau unigryw i gladdedigaeth.
Pan fydd unigolyn yn marw ym Mhowys ac nad oes unrhyw berthnasau neu ffrindiau hysbys i wneud y trefniadau angladd sy'n angenrheidiol, mae gennym ddyletswydd statudol dan Ddeddf Iechyd Cyhoeddus 1984 i wneud y trefniadau hynny. Gelwir yr angladdau hyn yn Angladdau Iechyd Cyhoeddus
Rydym yn rheoli 17 mynwent led led Powys
Mynwent | Lleoliad |
---|---|
Mynwent Aberhonddu | Heol Cradoc, Aberhonddu, Powys |
Mynwent Tal-y-bont | Tal-y-bont, Powys |
Mynwent Castell Caereinion | Castell Caereinion, Powys |
Mynwent Cegidfa | Cemetery Lane, Cegidfa, Powys |
Mynwent Y Gelli Gandryll | Heol Aberhonddu, Y Gelli Gandryll, Powys |
Mynwent Newydd Tref-y-clawdd | Tref-y-clawdd, Powys, LD7 1HY |
Hen Fynwent Tref-y-clawdd | Tref-y-clawdd, Powys, LD7 1EW |
Mynwent Llandrindod | Llandrindod, Powys, LD1 6AS |
Mynwent Llanfilo | Llanfilo, Aberhonddu, Powys |
Mynwent Llanfyllin | Stryd y Bont, Llanfyllin, Powys |
Mynwent Llanwrtyd | Llanwrtyd, Powys, LD5 4AD |
Mynwent Machynlleth | Tregarth, Machynlleth, Powys |
Mynwent Maesgwastad | Mount Street, Y Trallwng, Powys |
Mynwent Trefaldwyn | Tan-y-mur, Trefaldwyn, Powys |
Mynwent Y Drenewydd | Ffordd y Trallwng, Y Drenewydd, Powys |
Mynwent Llanandras | Llanandras, Powys, LD8 2LR |
Mynwent Rhaeadr Gwy | Rhaeadr Gwy, Powys, LD6 5DH |