Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Oes angen help arnoch gyda'ch budd-daliadau?

Swyddi gwag yn y Gwasanaethau Masnachol

Diolch am eich diddordeb yn ein swyddi gwag yng Ngwasanaethau Masnachol Cyngor Sir Powys.

Mae Cyngor Sir Powys yn mynd trwy gyfnod o newid sylweddol gyda Phrif Weithredwr ac uwch Dîm Arweinyddiaeth Gorfforaethol newydd wedi'u sefydlu'n ddiweddar. Yn ogystal â hyn, mae strwythur newydd yn cael ei weithredu ar draws uwch reolwyr ehangach y Cyngor.

Gyda chyllidebau sy'n lleihau a galw sy'n cynyddu, ynghyd ag amcanion strategol allweddol, sy'n cynnwys, cyrraedd Sero Net a sicrhau Gwerth Cymdeithasol uwch, mae hyn yn golygu heriau digynsail i Gyngor Sir Powys.

Gyda gwariant cytundebol blynyddol o tua £250 miliwn mae'n hanfodol bod y Cyngor yn sicrhau'r gwerth uchaf posibl drwy ei drefniadau masnachol. Trwy hyn, mae ein Tîm Gwasanaethau Masnachol yn alluogwr allweddol sy'n cynorthwyo'r sefydliad i gyflawni ei nodau corfforaethol.

Ynglŷn â'r Tîm

Mae'r Tîm Gwasanaethau Masnachol yn darparu gwasanaeth hanfodol i'r sefydliad drwy geisio dylanwadu'n gadarnhaol ar weithgarwch masnachol ar draws ei wariant dan gontract. O ystyried y rôl allweddol hon, mae'r Tîm hefyd wedi newid yn ddiweddar ac fe gawsom Arweinydd Proffesiynol newydd ar gyfer yr adran Caffael a Masnachol, a phroses ailstrwythuro diweddar i alluogi'r tîm i fod yn fwy addas i'r diben wrth helpu i gynorthwyo'r sefydliad i gyflawni ei nodau masnachol strategol.

Mae gan y tîm ffocws ar draws cylch bywyd llawn y Gwasanaethau Masnachol, gan gynnwys datblygu strategaeth fasnachol a chaffael, rheoli tendrau, a rheoli contractau. Mae eisoes wedi gwneud nifer o welliannau pwysig trwy ddyfarnu nifer o gontractau allweddol, sefydlu rhaglen gwella Rheoli Contractau strategol newydd a rhoi  gwelliannau hanfodol ar waith i helpu i yrru rhagor o amcanion Sero Net trwy wariant contract y Cyngor.

Caiff y gwelliannau hyn eu cydnabod nid yn unig yn cael o fewn y Cyngor ond hefyd yn genedlaethol, ac roeddem yn falch iawn o ennill y Wobr Caffael Cynaliadwy yn y Go-Awards caffael cenedlaethol fis Tachwedd 2023.

Er mwyn helpu'r tîm i ysgogi gwelliant pellach, a hefyd helpu i gynorthwyo'r Cyngor i roi'r newidiadau allweddol arfaethedig ar waith o ran Rheoliadau Caffael y DU a Chymru, mae gennym 4 cyfle cyffrous newydd i ymuno â'n tîm arobryn.

Commercial Services info

Swyddog Masnachol Swyddog Rheoli Contractau Strategol Swyddi gwag Lefel Arbenigwr Masnachol

Swyddog Masnachol

Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Swyddog Masnachol)

Swyddog Rheoli Contractau Strategol

Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Swyddog Rheoli Contractau Strategol )

Swyddi gwag Lefel Arbenigwr Masnachol

Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Swyddi gwag Lefel Arbenigwr Masnachol)
Swyddog Masnachol Swyddog Masnachol

Swyddog Masnachol

Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Swyddog Masnachol)
Swyddog Rheoli Contractau Strategol Swyddog Rheoli Contractau Strategol

Swyddog Rheoli Contractau Strategol

Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Swyddog Rheoli Contractau Strategol )
Swyddi gwag Lefel Arbenigwr Masnachol Swyddi gwag Lefel Arbenigwr Masnachol

Swyddi gwag Lefel Arbenigwr Masnachol

Darllenwch Fwy o Wybodaeth (Ewch i Swyddi gwag Lefel Arbenigwr Masnachol)