Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweld yr hysbysiad llawn

Hysbysiad: Mae manylion llawn system archebu newydd Canolfan Ailgylchu Gwastraff Cartrefi newydd a thaliadau am wastraff DIY ar gael ar wefan y cyngor.

Treth y Cyngor: Newid cyfeiriad / amgylchiadau

Treth y Cyngor: Rhoi gwybod am newid enw

Pan fyddwch chi wedi newid eich enw ee wedi priodi ...

Rhoi gwybod am newid enw yma Treth y Cyngor: Ffurflen Rhoi gwybod am newid enw

Treth y Cyngor: Pan fyddwch yn symud o fewn Powys

Pan fydd yr eiddo'n cael ei werthu /adfeddiannu neu pan fydd eich tenantiaeth wedi dod i ben a bod pawb yn eich cartref yn symud tŷ ond yn aros ym Mhowys.

Dywedwch wrthym pan fyddwch yn symud/wedi symud o fewn Powys Treth y Cyngor: Ffurflen Pan fyddwch yn symud o fewn Powys

 

 

Treth y Cyngor: Pan fyddwch yn symud allan o Bowys

Pan fydd yr eiddo'n cael ei werthu/ailfeddiannu neu pan fydd eich tenantiaeth wedi dod i ben a'ch cartref cyfan yn symud allan o Bowys i ardal arall.

Dywedwch wrthym pan fyddwch yn symud/wedi symud allan o Bowys Treth y Cyngor: Pan fyddwch yn symud allan o Bowys

Treth y Cyngor: Rydym yn symud i Bowys (Cofrestru)

Cofrestru am dreth y cyngor os:

  • Ydych yn symud Bowys o ardal arall.
  • Nad oeddech yn talu treth y cyngor yn eich cyeiriad diwethaf.
  • Ydych chi'n landlord
  • Oes gennych adeilad neu addasiad newydd.

Ar ol i chi gofrestru, fe allech chi gael gostyngiad or eithriad adeilad.

Cofrestr Treth y Cyngor yma Citizen Access Revenues

 

Treth y Cyngor: Pan fydd oedolyn ifanc yn troi'n 18

Dywedwch wrthym pan fydd oedolyn ifanc yn 18 oed (oni bai eu bod yn fyfyrwyr neu os ydych yn parhau i dderbyn budd-dal plant ar eu cyfer.) 

Dywedwch wrthym pan fydd oedolyn ifanc yn 18 oed Treth y Cyngor: Ffurflen Pan fydd oedolyn ifanc yn troi'n 18

 

Treth y Cyngor: Pan fydd rhywun yn symud allan neu mewn / nôl i'ch cartref

Dywedwch wrthym os oes rhywun yn symud allan neu i mewn / yn ôl i mewn i'ch cartref. 

Darllenwch Fwy o Wybodaeth Treth y Cyngor: Pan fydd rhywun yn symud allan neu mewn / nôl i'ch cartref

Treth y Cyngor: Rydych yn symud o fewn Powys ond rhywun arall sy'n talu'r bil

ee symud yn ôl i mewn gyda'ch rhieni a nhw yw'r rhai a fydd yn talu'r dreth gyngor neu rydych yn symud i lety arall a rennir. 

Dywedwch wrthym eich bod wedi symud o fewn Powys, ond nad ydych yn talu'r biliau Treth y Cyngor: Ffurflen Rydych yn symud o fewn Powys ond rhywun arall sy'n talu'r bil

Treth y Cyngor: Hawlio disgownt neu ostyngiad

Mae Treth y Cyngor yn seiliedig ar 2 neu fwy o oedolion cymwys yn byw yn yr un cartref.  Rhowch wybod i ni am unrhyw sefyllfa arall er mwyn gallu gwneud yn siŵr eich bod chi'n talu'r swm iawn o dreth y cyngor a ddim mwy.

Darllenwch Fwy o Wybodaeth Disgowntiau a gostyngiadau Treth y Cyngor (pobl)

Treth y Cyngor: Pan fydd oedolyn wedi marw

Rydyn ni'n deall pa mor anodd yw hi pan fyddwch mewn profedigaeth. Mae angen i ni wybod pan fydd oedolyn ar eich aelwyd wedi marw, er mwyn i ni wneud yn siwr nad ydych yn talu ond y swm cywir o Dreth y Cyngor a dim rhagor.

Mae'n rhaid i chi hefyd  gofrestru'r farwolaeth ar wahan. 

Pan fydd oedolyn wedi marw a rhywun yn dal i fyw yn yr eiddo, mae angen i ni wybod pwy sydd wedi marw, a phwy sy'n delio â'r ystad. Mae angen i ni hefyd wybod yn enw pwy fydd biliau Treth y Cyngor o hynny allan.

Os mai un oedolyn yn unig sy'n dal i fyw yn y cartref, mae'n bosibl y bydd yn gymwys i gael gostyngiad unigolyn sengl.

Hawlio gostyngiad unigolyn sengl Treth y Cyngor - Ffurflen Hawlio Disgownt Person Sengl

I sicrhau eich bod yn parhau i dalu'r swm cywir o Dreth y Cyngor a dim rhagor:

Gwiriwch ostyngiadau Treth y Cyngor Disgowntiau a gostyngiadau Treth y Cyngor (pobl)

Rhowch wybod i'r Cyngor yma pan fydd oedolyn wedi marw Treth y Cyngor: Pan mae oedolyn wedi marw

Treth y Cyngor: Pan fyddwch yn newid eich manylion banc

Sefydlu / diwygio ffurflen Debyd Uniongyrchol ar gyfer Treth y Cyngor  neu rydych chi'n newid eich manylion banc 

Dywedwch wrthym pan fydd eich manylion banc yn newid yma Sefydlu / diwygio ffurflen Debyd Uniongyrchol ar gyfer Treth y Cyngor / Cyfraddau Busnes

Treth y Cyngor: Help i bobl ag anabledd neu namau

Mae cynllun Gostwng Treth y Cyngor i'r Anabl yn cynnig gostyngiad i brif gartref rhywun ag anabledd parhaol a sylweddol

Read further information Treth y Cyngor: Ffurflen Help i bobl ag anabledd neu namau

Treth y Cyngor: Ffurflen holi am eithriad

Gallai eiddo heb bobl yn byw ynddo, eiddo heb ddodrefn, eiddo gwag neu anghyfannedd gael ei eithrio o Dreth y Cyngor. Mae mathau penodol o eiddo hefyd wedi'u heithrio pan fyddant wedi'u neilltuo at bwrpas arbennig, megis bod yn gartref i fyfyrwyr neu bersonél y lluoedd arfog yn unig.

Rhagor o wybodaeth yma Claiming an Exemption

Dywedwch wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol pan fyddwch yn symud ty

Os ydych chi'n gleient i Wasanaethau Cymdeithasol ym Mhowys, mae'n rhaid i chi roi gwybod i ni pan fyddwch yn symud tŷ fel y gallwn gysylltu â chi. 

Dywedwch wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol eich bod wedi symud Ffurflen Dywedwch wrth y Gwasanaethau Cymdeithasol pan fyddwch yn symud ty

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu