Toglo gwelededd dewislen symudol

Y daith ddwyieithog

The bilingual journey

Mae addysg cyfrwng Cymraeg ar gael ledled Powys, ac ym mhob cyfnod addysg o'r meithrin hyd at ôl-16 i gefnogi plant i ddod yn ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Beichiogrwydd ac o'r enedigaeth
Hyd yn oed yn ystod beichiogrwydd, gall babanod glywed lleisiau a cherddoriaeth. Os ydych chi'n awyddus i fagu eich plentyn yn ddwyieithog, nawr yw'r amser i ddechrau siarad a chanu yn Gymraeg i'ch babi neu fynd i sianel deledu S4C er mwyn iddo/iddi nhw glywed y Gymraeg yn cael ei siarad.

Mae'r rhaglen Cymraeg for kids, Cymraeg i Blant  yn cynnig cymorth ymarferol i rieni ddefnyddio'r Gymraeg gyda'u plentyn. Mae staff Cymraeg i Blant ym Mhowys yn cynnig gweithgareddau hwyliog, cyfrwng Cymraeg am ddim gan gynnwys sesiynau tylino babanod, ioga babanod ac amser stori a chân. Mae'r sesiynau hyn yn gyfle gwych i rieni gymdeithasu a dechrau defnyddio'r Gymraeg gyda'u baban. Does dim angen bod yn siaradwr Cymraeg i gymryd rhan - mae croeso i bawb.

Cyn-ysgol

Mae'r Cylch Ti a Fi  yn rhoi cyfle i rieni/gofalwyr babanod/plant ifanc gyfarfod unwaith yr wythnos i gymdeithasu, rhannu profiadau am sgiliau rhianta, a chwarae gyda'i gilydd mewn awyrgylch Cymraeg anffurfiol. Yn y Cylch Ti a Fi gallwch fwynhau gwneud ffrindiau newydd, chwarae gyda theganau, dysgu canu caneuon Cymraeg syml a gwrando ar straeon Cymraeg gyda'ch plentyn.

Mae'r Cylch Meithrin yn gylch chwarae cyfrwng Cymraeg sy'n cynnig cyfle i'ch plentyn gymdeithasu a dysgu drwy chwarae o dan arweiniad staff proffesiynol a chymwysedig. Drwy fynychu'r Cylch Meithrin bydd eich plentyn yn dechrau ar ei daith i addysg Cyfrwng Cymraeg a bydd yn datblygu'n unigolyn hyderus yn barod i gymryd y cam naturiol nesaf i addysg Gymraeg yn yr ysgol.

Gwneud cais am le cyn-ysgol

 

Ysgolion Cynradd

Dewis ysgol neu ffrwd cyfrwng Cymraeg ar eu cyfer yw'r ffordd orau i blant ddod yn ddwyieithog - yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg.

Ym Mhowys, mae'r mathau canlynol o ysgolion yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg, a fydd yn sicrhau bod plant yn dod yn ddwyieithog:

  • Ysgolion cyfrwng Cymraeg
  • ffrydiau cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion dwy ffrwd.  Mewn ysgolion dwy ffrwd, mae'r ddarpariaeth Gymraeg a Saesneg yn bodoli ochr yn ochr, ond fel arfer dim ond disgyblion yn y ffrwd cyfrwng Cymraeg sy'n dod yn ddwyieithog

Mae addysg Cyfrwng Cymraeg ar gael i bob plentyn sy'n byw ym Mhowys. Os nad oes ysgol neu ffrwd cyfrwng Cymraeg yn yr ardal lle rydych yn byw, bydd Cyngor Sir Powys yn darparu cludiant i'r darparwr cyfrwng Cymraeg agosaf.

Edrychwch ar dod o hyd i ysgol ym Mhowys i gael rhagor o wybodaeth am bob ysgol, gan gynnwys manylion cyswllt, gwefannau ac adroddiadau Estyn

​​​​​​​Gwneud cais am le mewn ysgol gynradd neu iau

 

Ysgol Uwchradd

Er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn cadw ac yn datblygu eu sgiliau yn y Gymraeg a'r Saesneg mae'n bwysig eu bod yn parhau i gael mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol uwchradd.

Mae darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gael mewn sawl ysgol uwchradd ddwy ffrwd ar draws Powys. Yn yr ysgolion hyn, mae'r ddarpariaeth Gymraeg a Saesneg yn bodoli ochr yn ochr, ond fel arfer dim ond y disgyblion yn y ffrwd cyfrwng Cymraeg sy'n ddwyieithog.

Edrychwch ar dod o hyd i ysgol ym Mhowys i gael rhagor o wybodaeth am bob ysgol, gan gynnwys manylion cyswllt, gwefannau ac adroddiadau Estyn

Yn ardal Ystradgynlais, mae dysgwyr yn defnyddio darpariaeth uwchradd cyfrwng Cymraeg yn Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur, ym Mwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot.

Gwneud cais am le mewn ysgol uwchradd