Beth sy'n gallu ac yn methu mynd i'ch blwch coch - Plastig, Caniau a Chartonau
Dyma'r hyn y cewch chi ei roi yn y blwch coch a'r hyn na chewch chi ei roi ynddo.
Cofiwch ni fyddwn yn casglu'ch ailgylchu os ydych wedi rhoi'r pethau anghywir yn eich blychau.
Ie os gwelwch yn dda
- Caniau bwyd a diod glân
- Ffoil alwminiwm
- Poteli plastig glân (wedi'u rinsio, gwasgu a'r caeadau wedi'u tynnu ymaith)
- Capiau a chaeadau poteli plastig
- Capiau poteli metel a chaeadau jariau
- Caniau erosol o'r gegin ac ystafell ymolchi
- Blychau bwyd plastig glân
- Potiau a blychau glân
- Cartonau glân
Na dim diolch
- Polystyren
- Caeadau potiau iogwrt
- Haenen lynu *
- Pecynnau creision *
- Eitemau trydanol *
- Eitemau plastig mawr *
- Tuniau paent a chaniau olew *
- Potiau planhigion *
- Bagiau a deunyddiau lapio plastig *
- Papur swigod *
- Deunyddiau cymysg - eitemau plastig *
- Pecynnau swigod tabledi *
* Gellir mynd â'r eitemau hyn i'ch canolfan leol ailgylchu gwastraff o'r cartref. Cyfeiriwch at ein rhestr ailgylchu A - Y am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pa ddeunyddiau y gallwch eu hailgylchu yno, neu pan fo'n ofynnol eu gwaredu.
Yn aml, gellir ailgylchu ffilm blastig, fel bagiau siopa, bagiau llysiau a bwyd, haen lynu, deunydd lapio cylchgronau ac ati yn eich archfarchnad leol. Cofiwch fynd â nhw gyda chi y tro nesaf y byddwch yn mynd i siopa.
Dylech roi eich blychau ar fin y ffordd, ychydig y tu allan i'ch ffin. Dylech osod eitemau y mae modd eu hailgylchu yn rhydd yn y blychau, ac nid mewn bagiau plastig neu gynwysyddion eraill.
Gallwch bentyrru'r blychau ar ben ei gilydd i arbed lle. Os ydych yn meddwl y bydd y blychau'n creu rhwystr ar y llwybr troed, rhowch y blychau yn union ar ffin eich eiddo.
Cofiwch fynd â'ch blychau oddi ar y llwybr troed cyn gynted ag y gallwch wedi iddynt gael eu gwagio. Os yw eich sbwriel yn cael ei gasglu o fan cymunedol ar hyn o bryd, bydd hyn yn parhau'r un fath yn ôl pob tebyg.