Toglo gwelededd dewislen symudol

Beth sy'n gallu ac yn methu mynd i'ch blwch coch - Plastig, Caniau a Chartonau

Plastic and Cans

Dyma'r hyn y cewch chi ei roi yn y blwch coch a'r hyn na chewch chi ei roi ynddo.

Cofiwch ni fyddwn yn casglu'ch ailgylchu os ydych wedi rhoi'r pethau anghywir yn eich blychau.

Ie os gwelwch yn dda

  • Caniau bwyd a diod glân
  • Ffoil alwminiwm
  • Poteli plastig glân (wedi'u rinsio, gwasgu a'r caeadau wedi'u tynnu ymaith)
  • Capiau a chaeadau poteli plastig
  • Capiau poteli metel a chaeadau jariau
  • Caniau erosol o'r gegin ac ystafell ymolchi
  • Blychau bwyd plastig glân
  • Potiau a blychau glân
  • Cartonau glân

Na dim diolch

  • Polystyren
  • Caeadau potiau iogwrt
  • Haenen lynu *
  • Pecynnau creision *
  • Eitemau trydanol *
  • Eitemau plastig mawr *
  • Tuniau paent a chaniau olew *
  • Potiau planhigion *
  • Bagiau a deunyddiau lapio plastig *
  • Papur swigod *
  • Deunyddiau cymysg - eitemau plastig *
  • Pecynnau swigod tabledi *

* Gellir mynd â'r eitemau hyn i'ch canolfan leol ailgylchu gwastraff o'r cartref. Cyfeiriwch at ein rhestr ailgylchu A - Y am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pa ddeunyddiau y gallwch eu hailgylchu yno, neu pan fo'n ofynnol eu gwaredu.

Yn aml, gellir ailgylchu ffilm blastig, fel bagiau siopa, bagiau llysiau a bwyd, haen lynu, deunydd lapio cylchgronau ac ati yn eich archfarchnad leol. Cofiwch fynd â nhw gyda chi y tro nesaf y byddwch yn mynd i siopa.

 

Dylech roi eich blychau ar fin y ffordd, ychydig y tu allan i'ch ffin. Dylech osod eitemau y mae modd eu hailgylchu yn rhydd yn y blychau, ac nid mewn bagiau plastig neu gynwysyddion eraill.

Gallwch bentyrru'r blychau ar ben ei gilydd i arbed lle. Os ydych yn meddwl y bydd y blychau'n creu rhwystr ar y llwybr troed, rhowch y blychau yn union ar ffin eich eiddo.

Cofiwch fynd â'ch blychau oddi ar y llwybr troed cyn gynted ag y gallwch wedi iddynt gael eu gwagio. Os yw eich sbwriel yn cael ei gasglu o fan cymunedol ar hyn o bryd, bydd hyn yn parhau'r un fath yn ôl pob tebyg.